Nadolig
Cwmni wrth deithio
Mi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati. (rhagor…)