Nadolig 2014
Nadolig 2014, 12
Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt. (Luc 2:20 BCN)
Daeth Dydd Gŵyl Ystwyll. Dyma’r dydd yn draddodiadol lle cofiwyd am y Doethion yn dod â’u hanrhegion at y baban Iesu. Dyma hefyd y diwrnod pryd y byddai’r Nadolig yn dod i ben. Diwrnod i dynnu’r addurniadau a dychwelyd i fywyd cyffredin bob dydd. Bydd llawer eisioes wedi gadael y dathlu ers dyddiau, gan mai ychydig sydd mewn gwirionedd yn cynnal deuddeg diwrnod y Nadolig. Yn yr ardal hon heddiw yw’r diwrnod eleni bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, a normalrwydd bywyd yn ail-afael. (rhagor…)