Albania
Albania 3
Mae popeth heblaw y traffig ar y lôn yn symud yn ara deg yn Albania. Heddiw bum yn gweinidogaethu mewn dwy eglwys. Yn y bore roeddwn yn pregethu yn eglwys Emanuel yn Tirana. Dyma’r eglwys lle mae Zef yn henuriad. Fe’i cychwynwyd gan Zef a rhai Cristnogion eraill, ond dan Read more…
Albania
Albania 2
Bu heddiw yn ddiwrnod o orffwys wedi’r daith yma, a pharatoi ar gyfer yr wythnos nesaf. Daeth Zef a’r teulu draw i Qendra Stefan yn y bore i gael brecwast efo mi. Roedd yn gyfle i siarad dipyn am sefyllfa’r wlad.
Bu i’r wlad ddioddef llawer dros y blynyddoedd. Dan arweiniad Enver Hoxha aeth yn fwy a mwy unig, wrth iddo gyhuddo gwahanol lywodraethau comiwnyddol o fradychu eu hegwyddorion. Roedd yn siwr fod Nato yn disgwyl am esgus i ymosod ar y wlad. (rhagor…)
Albania
Albania 1
Dyma fi wedi cyrraedd Gwlad yr Eryr, (Neu Eryri os mynnwch), sef ystyr Shqiperia – yr enw sydd gan y bobl ar eu gwlad eu hunain. Roedd y daith yma’n rhyfeddol o ddi-drafferth, gan adael Heathrow am 6 y bore, a seibiant o dair awr ym maes awyr Vienna – cyfle i gael Paned a thamaid o Apfel Strudel – cyn teithio ymlaen i Tirana, prif-ddinas Albania.
Ni chymrodd lawer i mi gofio sut mae pobl y wlad hon yn gyrru! Roedd Zef yn y maes awyr i’m cyfarfod, a daeth â mi trwy ganol y brifddinas i westy Qendra Stefan, lle byddaf yn aros am y tri diwrnod nesaf. (rhagor…)
Cristnogaeth
Diniwed fel Colomennod?
Ryden ni’n clywed pobl yn gofidio yn aml y dyddiau hyn nid yn unig fod Cristnogaeth yn ein gwlad yn colli ei dir, ond fod Cristnogion yn wynebu mwy a mwy o anhawsterau – mae rhai yn cwyno os fydd Cristion yn dangos ei ffydd yn rhy amlwg yn y lle gwaith trwy wisgo croes. Mae un arall wedi methu cael dyrchafiad, neu hyd yn oed wedi cael ei ddiraddio yn ei swydd oherwydd ei agwedd at rywioldeb. Mae safonau moesol yn y gymdeithas yn newid, a Christnogion weithiau yn cael eu cyhuddo o ragfarn dall anoddefgar drwy fynu bod hyn yn anghywir. (rhagor…)