Pasg
Gardd Gethsemane
Go brin fod yna un olygfa mwy dwys na honno lle gwelwn Iesu yn plygu ei ben mewn gweddi ingol yng Ngardd Gethsemane. Roedd o fewn dim i gael ei fradychu, a’i osod ar y llwybr a fyddai’n arwain at farwolaeth greulon y groes. Yr hyn mae llawer yn methu ei weld wrth ystyried hyn yw, beth yn union oedd yn peri y fath ofid i’r Gwaredwr. Mae’r ffilm The Passion yn dangos difrifoldeb y poen corfforol a’r cywilydd gerbron y byd. Ond nid hwnnw oedd yn peri i Iesu ofidio cymaint. (rhagor…)