European Leadership Forum
Cynhadledd ELF 3
Dydd Sul

Yr Athro John Lennox
Dechreuodd y diwrnod gyda brecwast am 7.00 y bore yn mentora gŵr ifanc o Latvia. Yna, wedi awr o drafod ei sefyllfa a cheisio cynnig doethineb a chyngor, dyma fynd i gyfarfod llawn cyntaf y diwrnod. Roedd hwn yn cael ei arwain gan Stefan Gustavson, sy’n dod o Sweden. Mae ei hiwmor bob amser yn gafael mewn pobl, ac fel arfer wedi ei gyfeirio tuag at bobl o Norwy. Ond roedd ochr ddifrifol iawn hefyd wrth iddo ein harwain i ystyried gras Duw. Yna daeth John Lennox ymlaen i’n harwain i edrych ar y Beibl. (rhagor…)
European Leadership Forum
Cynhadledd ELF 2
Y rheilffordd yn arwain i fynedfa gwersyll Birkenau
European Leadership Forum
Cynhadledd ELF
Dyma gyrraedd gwlad Pŵyl unwaith eto ar gyfer cynhadledd European Leadership Forum (ELF). Bu’r daith drosodd yn ddigon di-sylw. Cefais gyfle i ddarllen llyfr Os Guiness – Unspeakable – fel rhan o baratoad ar gyfer ymweld ag Auschwitz. (rhagor…)
European Leadership Forum
Y Diwrnod Olaf
Daeth diwrnod olaf y gynhadledd. Diwrnod yn rhydd o fentora oedd hwn, felly roedd y prydau bwyd yn gyfle i sgwrsio’n fwy hamddenol gyda chyfeillion. Dyna Jonathan Stephen a Joel Morris o goleg WEST ym Mryntirion. Mae’r cysylltiadau sy’n gallu codi yma yn fawr ac rwyf wedi llwyddo i gyflwyno ambell un iddyn nhw. Wedyn dyna sgwrs gyda gweinidog o Hwngari. Roedd ei wraig wedi cael gweithdy a arweiniais llynedd yn gymorth mawr, ac roedd hynny’n galondid i minnau yn fy nhro. (rhagor…)
European Leadership Forum
Guiness gyda’r hwyr
Roedd Dydd Mawrth yn ddiwrnod ychydig yn ysgafnach i mi. Roeddwn yn mentora gweinidog ifanc o Rwmania am saith y bore. Mae ganddo eglwys fechn iawn o 17 aelod, a dim llawer o gefnogaeth yn y sefyllfa. Felly roedd yn gwerthfawrogi rhannu ei faich a chael rhywfaint o gyngor. (rhagor…)
European Leadership Forum
Reslo, esblygiad a chefnder Al Capone
Dyma rai o uchafbwyntiau dydd Llun yn Wisla. Dechreuodd y diwrnod yn mentora gwraig gweinidog o Serbia amser brecwast. Plannodd ei gŵr egwys ym Melgrâd dair blynedd yn ôl, ac mae llawer i fod yn ddiolchgar amdano yn eu sefyllfa. (rhagor…)
European Leadership Forum
Mwy o wlad Pŵyl
Bu’r Sul yn ddiwrnod prysur a dweud y lleiaf. Dechreuodd y diwrnod gyda brecwast am 7 lle treuliais awr yn mentora gweinidog ifanc o Moldova, oedd yn ceisio meddwl sut y gallai ddefnyddio ei ddoniau yn y ffordd orau, a sut y gallai ysgogi brwdfrydedd yn fwy ymhlith aelodau’r eglwys. Yna daeth pawb at ei gilydd ar gyfer addoliad a neges gan Stefan Gustavsson. (rhagor…)
European Leadership Forum
Gair o Wlad Pŵyl
Erbyn hyn rwyf wedi cyrraedd gwlad Pŵyl, ac mewn gwesty anferth yn ne’r wlad, heb fod yn bell iawn o’r ffîn â’r weriniaeth Tsiec. Y rheswm dros ddod yma yw i gymryd rhan mewn cynhadledd i arweinwyr Cristnogol o Ewrop a thu hwnt (yr European Leadership Forum, neu ELF fel mae pawb yn ei alw). Bum yn dod i’r gynhadledd ers sawl blwyddyn, a gan fod heddiw yn ddiwrnod eithaf tawel dyma fachu ar y cyfle i osod ychydig i lawr cyn y prysurdeb mawr. (rhagor…)