Auschwitz
Meddwl am Auschwitz (7)
Un o’r emynau y mae Cymry yn dal i’w chanu gydag arddeliad yw honno ysgrifennwyd gan Dafydd Charles, Caerfyrddin:
Rhagluniaeth fawr y nef
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw.
Dwi’n amau fod yr hwyl ar y canu fwy i’w wneud â’ r dôn na’r geiriau. Oherwydd mae’r syniad fod Duw yn trefnu pob dim yn dipyn o her, yn enwedig wrth feddwl am y dioddef yn Auschwitz.
Ble oedd Duw yn yr Holocost? Sut fedrwn ni sôn am ragluniaeth Duw wrth yr Iddewon a ddioddefodd y fath bethau erchyll? Pam fod Duw wedi caniatáu i’r Holocost ddigwydd? Os yw Duw yn Arglwydd pob dim, sut fod pethau fel hyn wedi cael digwydd? (rhagor…)