Tymor yr Adfent
Tymor yr Adfent 5
Heddiw dyma garol i chi feddwl amdani. Mae’n gosod stori’r geni o fewn cyd-destun y stori fawr – stori sy’n cychwyn cyn bod amser, ond sy’n arwain ymlaen at y geni ym Methlehem, ymlaen at y Groes, ac yna at heddiw, a’r cyfle sydd gennym ni i ymateb i wahoddiad grasol y baban a ddywedodd flynyddoedd wedi ei eni: “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.” (Mathew 11:28-30). Gellir ei chanu ar dôn Poland (Caneuon Ffydd 373, neu Praise 361) (rhagor…)