Llawenháu yn yr Anrheg
Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg.
Ond rhan o ogoniant yr ŵyl i ddilynwyr yr Arglwydd Iesu Grist yw fod ein llawenydd ni yn parháu a chynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Er fod y neges yn hen, mae’n ffres bob dydd. Yn ystod y tridiau diwethaf rwyf wedi bod ar wyliau gyda Christnogion eraill ym Mryn-y-Groes, y Bala. Mae wedi bod yn amser o hwyl, er fod y tywydd wedi bod yn wael. Rydym wedi cael gemau, sgyrsiau a gwahanol weithgareddau.
Ond dau beth sydd wedi bod yn uchafbwyntiau i mi yn ystod y dyddiau hyn. Yn gyntaf rydym wedi cael ein hatgoffa bob bore am lawenydd y Cristion. Roeddem yn ymgasglu i addoli, a chael ein harwain drwy bregethu i feddwl am ddymuniad ein Harglwydd i ni gael rhannu yn ei lawenydd Ef ei hun gyda ni. Agwedd y byd anghrediniol yw mai “spoilsport” ydyw Duw, sy’n dymuno ein bod yn colli allan ar brofiadau gorau bywyd. Gwirionedd yr efengyl yw mai pechod yw’r “spoilsport” – a gall neb ohonom ddweud hyn mewn ffordd hunan-gyfiawn oherwydd ein bod i gyd yn dioddef o’i ddylanwad.
Mae yna lawenydd mewn ymhyfrydu yn ein Tad nefol sydd wedi ein caru ers cyn bod y byd. Mae yna lawenydd i’w gael mewn ufuddháu i’w orchmynion – llawenydd y cyfeiriodd ein Harglwydd ato ychydig cyn mentro mewn ufudd-dod i ardd Gethsemane lle gwyddai y byddai’n cael ei arestio, ei gondemnio a’i arwain i’r groes. Mae yna lawenydd i’w gael ym mhobl Duw. Er ein bod i gyd yn wahanol, ac ar adegau yn peri rhwystredigaeth i’n gilydd, eto mae’r Arglwydd yn dwyn rhai sydd mor wahanol wrth natur, i’n gwneud ni yn debyg iddo Efe ei hun. Yn ein hamrywiaeth mae yna syndod yn dod i mewn wrth i ni gael cipolwg o Grist yn ein gilydd.
Yr ail uchafbwynt oedd gweld y pwynt olaf yma ar waith – cael llawenháu ym mhobl Dduw. Mae’r gymdeithas wedi bod yn braf yma. Roedd cael ail-gysylltu gyda rhai na welais ers blynyddoedd a gwybod sut mae Duw wedi bod yn gweithio yn eu bywydau yn galondid. Roedd yna eraill nad oeddwn wedi eu cwrdd o’r blaen, a’r llawenydd o weld sut mae Duw wedi galw pobl na fyddwn yn naturiol wedi eu hadnabod o gwbl, a’u dwyn i mewn i’w deulu.
Yr hyn sy’n syndod parhaus yw ein bod i gyd yn dod o gefndiroedd gwahanol gyda doniau a diddordebau amrywiol. Ond oherwydd ein bod yn perthyn i Grist mae yna undod sy’n ddyfnach na chlymau naturiol y byd. Mae’r cwlwm hwn on croesi ffiniau addysg, diwylliant, oedran a chenedl.
Felly er fod y Nadolig yn cilio’n sydyn i’r gorffennol, a’r anrhegion yn colli eu sglein, mae’r cynnwrf o lawenháu yn y baban a anwyd ym Methlehem yn parháu. Mae’r hen stori yn dod yn newydd am fod cariad Duw yn parháu ac yn cael ei arllwys i’n calonnau ddydd ar ôl dydd.