Cynllun y Flwyddyn
Ydech chi wedi gwneud rhyw gynlluniau arbennig ar gyfer 2014? Mae dechrau’r flwyddyn yn adeg lle mae llawer yn edrych ymlaen at rywbeth. Rydym newydd gael y gwyliau Nadolig, ac wrth i’r rheini ddod i ben, rydym ninnau eisiau gallu cael rhywbeth newydd i feddwl amdano.
Wrth edrych yn ôl, mae’n rhaid i mi gyfaddef mai prinnyw’r blynyddoedd wedi troi allan yn union fel ag yr oeddwn i wedi eu cynllunio. Mae’n wir fod yna sawl peth yr oeddwn yn eu trefnu wedi digwydd. Ond roedd yna bethau roeddwn i wedi gobeithio eu cyflawni, ac mae nhw’n dal heb eu gwneud. Mae yna bethau eraill na wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn gorfod eu wynebu, ond dyna ddigwyddodd. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn brofiadau gwych – tra mae pethau eraill wedi bod yn boenus tu hwnt. Dyna yw bywyd. Er ein bod ni yn hoffi trefnu, mae pethau yn dod ar draws ein trefniadau ni, a does dim a allwn ei wneud i’w hatal rhag bwrw ein cynlluniau ni i anrhefn.
Wrth gwrs, ddylai hynny ddim ein hatal rhag edrych ymlaen, cynllunio a threfnu. Cyn belled â’n bod yn cofio ein cyfyngderau, a’n bod yn barod ar gyfer yr annisgwyl. Mae perspectif y Beibl yn help wrth wneud hyn. Oherwydd mae’r Beibl yn cymryd yn ganiatáol fod trefn bywyd yn y pen draw yn nwylo rhywun arall – rhywun mwy na ni, a rhywun gwell na ni, sef Duw:
“Niferus yw bwriadau meddwl pobl, ond cyngor yr Arglwydd sy’n sefyll.” (Diarhebion 19:21)
Gall hyn fod yn gysur mawr i ni, yn enwedig pan ddaw gofid i’n cyfarfod. Roedd Joseff wedi breuddwydio llawer mae’n siwr am sut fyddai ei fywyd yn cael ei drefnu – ond fe drodd y cyfan yn hunllef, pan werthwyd o gan ei frodyr i’r Ismaeliaid (Genesis 37). Aeth o un gofid i’r llall a chael ei fradychu fwy nag unwaith. Ond yn y diwedd gallai edrych yn ôl a dweud wrth ei frodyr “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw? Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f’erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw’n fyw llawer o bobl. (Genesis 50:19-20)
‘Does dim all unrhyw un ei wneud fydd yn gryfach na chariad Duw tuag at ei bobl. Ystyriwch eiriau Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, pennod 8, ac adnodau 28 i 39. Nid dweud mae’r apostol na fydd yn rhaid i ni wynebu anhawsterau. I’r gwrthwyneb, mae nhw’n debyg iawn o ddod. Ond yn y pethau hynny bydd Duw gyda’i bobl: Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, 39 na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. (Rhufeiniaid 8:38-39)
Pa gyngor all fod yn addas felly wrth gynllunio ar gyfer 2014? Bore heddiw yn fy narlleniadau dyddiol o’r Beibl roedd cyfeiriad at Ioan Fedyddiwr a’i wenidogaeth: ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.’ (Mathew 3:3) Dyma lle mae dechrau cynllunio. Wrth ddiogelu fod lle i Dduw yn ein calonnau, bydd yr Arglwydd yn gydymaith ar y daith drwy’r flwyddyn Yna beth bynnag a ddaw, fe fydd yn flwyddyn o dyfu i’w adnabod yn well, a phrofi ei ddaioni bob dydd.