“Ffordd na chenfydd llygad barcut”

Published by Dafydd Job on

images (8)Mae’r flwyddyn sy’n ymestyn o’n blaen yn llawn o brofiadau gwahanol i bob un ohonom. Wyddom ni ddim beth ddaw. Tydi hynny ddim yn golygu fod yn rhaid i ni bryderu am yr hyn a ddaw. Un ffordd o dawelu ein pryderon yw edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi mynd o’n blaen. Mae yna rhyw falchder ynom weithiau, sy’n mynnu bod ein hanes ni yn wahanol i hanes pawb arall. Mae datblygiadau ein hoes ni yn golygu fod ein hamgylchiadau yn gymaint mwy heriol na’r oesau a fu. Does yna neb sydd wedi wynebu sefyllfa mor anodd â ni.

Ond nid felly mae hi. Gallwn edrych ar hanes pobl eraill a gweld, er bod yr amgylchiadau yn wahanol, yr un yw calon dyn yn ei hanfod. Heddiw yn fy narlleniadau o’r Beibl roedd hanes y Gwaredwr yn wynebu temtasiwn yn yr anialwch (Mathew 4:1-10), a chefais fy atgoffa nad archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod. (Hebreaid 4:15).

Yn y Beibl cawn hanes real pobl oedd mewn cymaint o ffyrdd yn debyg i ni. Roedden nhw’n byw gyda gobeithion ac ofnau, yn ansicr o’u dyfodol mewn sawl ffordd. Ond yr hyn sy’n galondid yw, hyd yn oed pan oedden nhw’n methu, roedd Duw yno yn gymorth a diogelwch iddyn nhw. Roedd gras yn estyn i lawr i’w bywydau, fel eu bod yn fwy na choncwerwyr trwy Grist.

Ac wrth edrych drwy’r canrifoedd gwelwn Gristnogion yn cael eu cynnal, a hyd yn oed yn darganfod llawenydd rhyfeddol mewn amgylchiadau y gallem feddwl fyddai’n llorio’r cryfaf. Un o’r pethau rwyf fi yn hoffi ei wneud weithiau yw darllen hen emynau. Mae yna gyfoeth rhyfeddol ynddyn nhw, a mae gwybod ychydig am hanes yr un ysgrifennodd y geiriau yn ychwanegu at y gwerthfawrogi.

Ann GriffithsRhai o’m hoff emynau i yw rhai Ann Griffiths. Er mai oes fer a gafodd, yn marw cyn cyrraedd ei phenblwydd yn ddeg ar hugain, eto profodd rhyw lawenydd rhyfeddol trwy efengyl Iesu Grist. Cymharol ychydig o emynau a ysgrifennodd o’i chymharu er enghraifft â Williams Pantycelyn, eto mae dyfnder y profiad o gael Duw yn gynhaliaeth a chysur ar daith bywyd yn llifo drwy ei gwaith. Mae’n plethu delweddau’r Beibl gyda’i gilydd i ddangos fel mae Gair Duw yn rhoi persbectif i ni fedru byw yn wyneb pob amgylchiad.

Dyma gywydd a ysgrifennais rai blynyddoedd yn ôl amdani. Ond gwell nag aros gyda’r cywydd, ewch i ddarllen ei hemynau eich hunan, a chewch fendith ar ddechrau blwyddyn newydd.

Ann

Y mae ffordd sy’n ffordd y Ffydd
A’i ffin ar fin afonydd
Dyfroedd clir; Ffordd trwy dirwedd
Anodd yw, ond ffordd o hedd
Rhydd ei thaith, a hardd ei thôn
Yw alaw ei fforddolion.

A thi, Ann, o’i theithio hi
Hyd storws Ei dosturi
A welaist, a brofaist rin
Yn wyneb hardd dy Frenin
A meddwaist ar y maddau
Drwy’r gras a fyn drugarhau.

Yn Nolwar Rhosyn Saron
A’i ras a lanwai dy fron
A’i heulwen yn gyfalaw
Yn Ei lais, ac yn Ei law
Oni welaist deyrnwialen
Aur o bwys, ac ar Ei ben
Goron ddrain – y drain a droes
Yn dynnach am dy einioes,
Nansi’r ffydd, na dawnsio’r ffair?
Dyn yn Dduw, a Duw’n ddiwair
Ddyn o werth; Rhodd yn wrthrych
Hardd, a Had yn Geidwad gwych.

© Dafydd M Job