Cyfres Newydd
Gyda thymor y Nadolig drosodd daeth y gyfres o ddefosiynau dyddiol i ben. Gobeithio i chi gael y myfyrdodau yn gymorth wrth ddathlu. Byddaf allan o gyrraedd y we am y cwpl o ddyddiau nesaf, felly ni ddaw cyfle i ddiweddaru’r blog yn ddyddiol. Ond gobeithio cyn diwedd yr wythnos y byddaf yn gallu ail afael yn yr ysgrifennu.
Yn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl?
Yn wir, mewn oes pryd mae’r Atheistiaid newydd wedi bod yn groch yn eu pregethu yn erbyn crefydd yn gyffredinol a Christnogaeth yn arbennig, mae’n ymddangos mai cilio ddylai rhywun. Onid yw gwyddoniaeth wedi dangos gymaint o ofergoel sydd ynghlwm mewn cred grefyddol?
Mae’r cyfryngau yn llwyddo i roi llawer o sylw i grefydd – ond fel arfer tynnu sylw at ryw sgandal gyda cham-drin plant, neu cyhuddiadau o homophobia neu gwrthod lle i ferched sy’n cael y sylw, neu rhyw anoddefgarwch afresymol. Ac wrth gwrs mae’r syniad ar led mai eithafiaeth grefyddol sy’n gyfrifol am gymaint o derfysgaeth gyfoes, a rhyfeloedd ar draws y canrifoedd.
Sut felly mae modd amddiffyn Cristnogaeth Feiblaidd? Dyma fydd thema y blogiau nesaf. Gobeithio y byddan nhw yn gymorth i rai weld nad peth afresymol yw credu.
Os ydych yn rhywun sydd heb wybod yn iawn beth yw Cristnogaeth Feiblaidd, gobeithio y cewch oleuni i’ch helpu i ddeall beth ydym yn ei gredu. Os ydych yn rhywun sy’n amau gwerth Cristnogaeth, neu wedi ei wrthod am ryw reswm neu gilydd, rwy’n gobeithio y cewch eich procio i ystyried os oes lle i’ch amheuon a’ch gwrthod.
Os ydych yn rai sydd yn credu, gobeithio y cewch eich calonogi. Efallai bod rhyw un wedi herio eich ffydd, a cewch yma ryw bethau y gallwch eu trafod gyda’ch ffrindiau, eich cymdogion, a’ch cyd-weithwyr sydd heb arddel y ffydd.
Rwyf fi’n argyhoeddedig nad oes dim byd mwy rhesymol, cynorthwyol a gwir nag efengyl Iesu Grist. Rwyf hefyd yn credu nad oes dim fydd yn fwy o gymorth i fywyd fy nghyd-Gymry na dod i arddel yr un efengyl. Fy awydd yw fod llawer o’m cyd-genedl yn dod i brofiad byw o wirionedd yr efengyl, a hynny trwy ddod i berthynas â’r Arglwydd Iesu. Gobeithio y cewch fudd o’r hyn ddaw.