Credu Ymarferol?
Cwestiwn arall i ni ei ystyried wrth feddwl am yr hyn a gredwn yw hwn: A fedra i fyw gyda’m cred? Beth yw canlyniad credu fel y gwna’r Atheistiaid Newydd ac a oes modd byw yn ôl y gred honno?
Yn gyntaf, mae’n ymddangos yn gred ddigalon iawn. Mewn dyfyniad enwog o eiddo Francis Crick, (a ddarganfyddodd strwythur DNA gyda’i gydweithiwr James Watson) dywedodd: “ ‘You,’ your joys and your sorrows, your memories and your ambitions, your sense of personal identity and free will, are in fact no more than the behaviour of a vast assembly of nerve cells and their associated molecules. Who you are is nothing but a pack of neurons.” (The Astonishing Hypothesis: The Scientific Search for Soul (1994))
Problem cred felly yw nad yw yn rhoi lle i bwrpas mewn bywyd. Mae’n ein troi yn ddim mwy nag adweithiau cemegol, heb unrhyw ddiben yn y byd. Ond fedr neb ohonom fyw heb rhyw bwrpas neu ddiben. Mae yna reddf ynom sy’n dweud fod yna bwynt i’n bodolaeth. Gall yr anifeiliaid fyw o ddydd i ddydd yn gwneud dim mwy na dilyn eu greddf, ond tydi hynny ddim yn wir amdanom ni. Efallai nad ydym yn siwr o’r pwrpas, ond gorchwyl mawr ein bywyd yw dod o hyd iddo.
Daw’r cwestiwn o werth a diben bywyd yn fwy personol pan drown at ein hanwyliaid. Pan gollwn riant, mae yna rhywbeth ynom sy’n protestio bod yna fwy wedi digwydd na’u bod nhw wedi peidio a bodoli bellach. Os caiff plentyn ei daro i lawr gan gar a’i ladd, gall neb ohonom ddweud – dyna adweithiau phisegol a chemegol sydd wedi newid cynhwysion y corff bychan fel ei fod yn peidio gweithredu. Does dim modd byw yn ymarferol gyda’r gyda’r gred honno.
Ar y llaw arall, mae’r Beibl yn dweud mai Duw sydd y tu ôl i’n bodolaeth ni. Cawsom ein creu ganddo, a hynny gyda phwrpas a diben arbennig i’n bywyd. Rydym wedi ein creu i brofi llawenydd trwy adlewyrchu ein Crëwr, ac i fwynhau perthynas real gydag o. (Dyna neges dwy bennod gyntaf y Beibl) Dyna gred sy’n rhoi gwerth arbennig i’n bywyd. Dyma gred y gallwn fyw yn ei goleuni, a rhan o ogoniant yr efengyl yw ei bod yn rhoi diben hyd yn oed i’r pethau anodd ddaw i’n rhan. Mae gan ein Crëwr rhywbeth positif ar ein cyfer hyd yn oed yn ein tywyllwch a’n dioddefaint. (Daw cyfle i ymhelaethu eto ar Dduw a’n dioddefaint.)
Does gan gred yr Atheistiaid Newydd ddim i’w gynnig ar gyfer byw o ddydd i ddydd oherwydd mai hap a damwain yw popeth. Y gorau y gallwn obeithio amdano yw survival of the fittest. Ar y llaw arall mae gan y Cristion Un sy’n goruwchlywodraethu, yn arwain ac yn cynnig gobaith ynghanol bywyd bob dydd.
I fynd yn ôl at lle y gorffenais ddoe, rhaid i’r Atheistiaid Newydd edrych ar y sêr yn yr awyr a chyfaddef nad oes pwrpas i ddim ohono. Ar y llaw arall, gall y Cristion edrych ar y sêr a llawenhau fod eu Crëwr rhyfeddol hwy wedi ein creu ninnau, ac mae’n ein caru â chariad tragwyddol. (Salm 19)