Credu mewn awdurdod?

Published by Dafydd Job on

Y tro diwethaf roeddwn yn cyfeirio at y cyhuddiad gan rai mai rhyw power play oedd crefydd a chred yn Nuw, gan rai mewn awdurdod i geisio cadw eraill o dan eu rheolaeth. Yn sicr mae’r eglwys wedi defnyddio ei hawdurdod ar adegau mewn ffyrdd cwbl anghywir, a does dim modd amddiffyn hynny. Fodd bynnag y cwestiwn sydd raid ei holi yw: Ai credu yn Nuw ydi’r rheswm fod pobl yn cam-ddefnyddio awdurdod?

Yn hanesyddol fe gafwyd arbrawf mawr gan yr atheistiaid yn yr ugeinfed ganrif gan y rhai oedd yn dilyn Karl Marx. Y syniad wrth gwrs oedd fod pawb yn gyfartal, a byddai llywodraeth wedi ei threfnu i gydnabod hynny yn well na llywodraeth lle roedd y breintiedig yn gormesu’r werin. Rydym yn gwybod mai methiant fu yr arbrawf. Cyn bo hir gwireddwyd dywediad enwog George Orwell o’i nofel fach Animal Farm: “All animals are equal, but some are more equal than others”. Doedd peidio credu yn Nuw ddim yn help o ran cam-ddefnyddio awdurdod.

Os am osgoi anarchiaeth, lle mae pawb yn gofalu am ei hawliau a’i ewyllys ei hun a’r gwan yn dioddef, yna rhaid ceisio rhyw fath o reolaeth. Ble cawn ni ddod o hyd i awdurdod fydd yn ein trîn yn deg a chyfiawn? Beth pe byddai yna Un sy’n gwbl ddoeth, yn gwbl dda, yn hollalluog, ac ar ben hynny yn drugarog tuag at y rhai yn ei Deyrnas? Onid dyna fyddai’r sefyllfa ddelfrydol?

Dyna’r darlun gawn ni yn y Beibl – a dyna pam bod Iesu Grist yn ganolog i’r holl ddarlun – oherwydd mai Fo sy’n dangos i ni sut un ydi Duw – fo ydi Duw mewn cnawd. Ac er bod rhai yn meddwl fod cael Duw hollwybodus, hollalluog, holl-bresennol yn hunllef, tydi o ddim ond yn hunllef i’r rhai sydd heb ei adnabod. Nid “Big Brother is watching you” ydi hwn, ond ein Tad trugarog sydd am i ni brofi’r llawenydd mwyaf dan ei ofal caredig.

Un o fy hoff Salmau yw Salm 139, lle cawn olwg ar y Duw hwn – un na allwn ffoi oddi wrtho, ond un na fyddem eisiau ffoi oddi wrtho, ond i ni wybod ei gymeriad glân a hyfryd.

Psalm 139

Arglwydd, yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod.  2 Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi; yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;  3 yr wyt wedi mesur fy ngherdded a’m gorffwys, ac yr wyt yn gyfarwydd â’m holl ffyrdd.  4 Oherwydd nid oes air ar fy nhafod heb i ti, Arglwydd, ei wybod i gyd.  5 Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen, ac wedi gosod dy law drosof.  6 Y mae’r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi; y mae’n rhy uchel i mi ei chyrraedd.

7 I ble yr af oddi wrth dy ysbryd? I ble y ffoaf o’th bresenoldeb?  8 Os dringaf i’r nefoedd, yr wyt yno; os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.  9 Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr,  10 yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a’th ddeheulaw yn fy nghynnal.  11 Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio, a’r nos yn cau amdanaf”,  12 eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti; y mae’r nos yn goleuo fel dydd, a’r un yw tywyllwch a goleuni.

13 Ti a greodd fy ymysgaroedd, a’m llunio yng nghroth fy mam.  14 Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda;  15 ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel, ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.  16 Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt.

17 Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw, ac mor lluosog eu nifer!  18 Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na’r tywod, a phe gorffennwn hynny, byddit ti’n parhau gyda mi.  19 Fy Nuw, O na fyddit ti’n lladd y drygionus, fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf –  20 y rhai sy’n dy herio di yn ddichellgar, ac yn gwrthryfela’n ofer yn dy erbyn.  21 Onid wyf yn casáu, O Arglwydd, y rhai sy’n dy gasáu di, ac yn ffieiddio’r rhai sy’n codi yn dy erbyn?  22 Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith, ac y maent fel gelynion i mi.

23 Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon; profa fi, iti ddeall fy meddyliau.  24 Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi, ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.

Beibl Cymraeg Newydd  Argraffiad Diwygiedig © Cymdeithas y Beibl 2004