Cynhadledd ELF
Dyma gyrraedd gwlad Pŵyl unwaith eto ar gyfer cynhadledd European Leadership Forum (ELF). Bu’r daith drosodd yn ddigon di-sylw. Cefais gyfle i ddarllen llyfr Os Guiness – Unspeakable – fel rhan o baratoad ar gyfer ymweld ag Auschwitz.
Ym maes awyr Frankfurt deuthum ar draws Greg Koukl, sy’n dod i siarad yn y gynhadledd. Mae’n dod o Unol Daleithiau’r Amerig lle mae ganddo raglen radio wythnosol lle bydd yn trafod materion ffydd. Un o’i brif ddulliau o wneud hyn yw gwahodd rhai sy’n gwrthwynebu Cristnogaeth i ddod a chynnal trafodaeth, felly mae’n un sydd wedi arfer dadlau o blaid y ffydd mewn trafodaeth gyhoeddus. Mae ganddo lyfr – Tactics – sy’n dangos sut mae mynd ati mewn ffordd bositif i ddadlau o blaid y ffydd.
Wedi cyrraedd Wisla a chofrestru, dyma fynd i gael bwyd. Roeddwn yn eistedd ar fwrdd gyda dau Gristion o ynysoedd Ffaro (edrychwch ar y map – does ganddo ddim i’w wneud â’r Aifft!), un o’r Weriniaeth Tsiec sy’n gweithio i eglwys yn nwyrain y wlad yn ninas Olomouc. Hefyd ar y bwrdd roedd yr athro Wayne Grudem a’i wraig o’r UDA. Mae Wayne Grudem yn awdur toreithiog, a’i gyfrol o Ddiwinyddiaeth Gyfundrefnol (Systematic Theology) yn un o’r cyfrolau sy’n cael ei defnyddio fwyaf mewn cylchoedd diwinyddol efengylaidd.
Wedi bwyd dyma ymgasglu gyda tua phump ar hugain o rai eraill i gael darlith gan William Edgar ar gefndir gwersyll difa Auschwitz. Cododd sawl pwynt trafod yn y ddarlith. Yn gyntaf edrychodd ar y cefndir hanesyddol, a’r modd yr oedd yr hyn wnaeth cytundeb Versaille ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf osod yr Almaen mewn lle mor anodd. Yn edrychodd ar beth o’r cefndir athronyddol, gyda’r modd yr oedd syniadau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi newid meddylfryd y gymdeithas – roedd dylanwad Darwiniaeth yn golygu fod amheuon wedi codi ynglyn â safle dyn yn y gradigaeth. Roedd athroniaeth Nietzsche, a syniadau Freud hefyd wedi gadael eu hol, a rhoi mynegiant i gwestiynau mawr ynglyn a’r bydolwg, ac yn herio cysyniadau oedd wedi codi yn dilyn cyfnod y goleuo (enlightenment).
Yna roedd cwestiynau ehangach yn codi ynglyn â drygioni, a pha mor unigryw yw’r hyn a ddigwyddodd yn Auschwitz. Pam fod Duw wedi caniatau y fath beth? Beth amdanom ni? Beth yw ein cyfrifoldeb ni yn wyneb drygioni’r byd?
Bore Sadwrn, wedi brecwast am 7, dyma ymuno gyda’r pump ar hugain i fynd ar fws a thaith tua awr a hanner draw i wersyll Auschwitz. Dyma ymweliad nad oeddwn yn edrych ymlaen ato, ond rhywsut yn teimlo na allwn ei osgoi. Roeddem yn treulio ryw awr a hanner yn cael ein tywys trwy wersyll I sydd wedi ei droi yn amgueddfa. Roedd y ferch a’n tywysodd yn arbeenig yn y ffordd roedd yn egluro’r cwbl ddigwyddodd yno. Yna cawsom fynd i ran arall y gwersyll – Auschwitz II Birkenau lle roedd tri chan mil ar y tro yn cael eu cadw. Yma roedd cofeb i’r cyfan wedi ei chodi.
Wedi bod yn y gwersyll daethom yn ol i’r gwesty lle mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar gyfer trafodaeth. Mae’n anodd dod o hyd i eiriau i ddisgrifio’r hyn a welsom. Felly gadawaf hynny tan ymhellach ymlaen. Digon yw dweud ei fod yn ddiwrnod na fyddaf yn ei anghofio, ac yn gorfod ei ystyried yn ddwys. Mae sefyll lle roedd 700 yn cael eu lladd gyda nwy mewn ugain munud, gweld bwndeli o wallt y carcharorion oedd yn cael ei dorri wrth iddyn nhw gyrraedd, er mwyn ei ddefnyddio i lenwi matresi, gweld y crocbren lle dienyddiwyd pennaeth y gwersyll wedi’r rhyfel, yn brofiadau na ellir eu hegluro mewn geiriau.
Ceisiaf ddweud mwy yn y cofnod nesaf.