Dyma gyrraedd diwrnod olaf y Fforwm. Unwaith eto, doedd dim modd cysgu’n hwyr, gyda sessiwn mentora cyntaf y dydd am 7 gyda Tatyana, merch o’r weriniaeth Tsiec. Yna am 8.15 cawsom ymgalsglu i’r prif neuadd i glywed John Lennox yn rhoi ei anerchiad olaf ar fywyd Abraham.
Cefais dipyn o syndod wrth iddo ddechrau ei anerchiad yn sôn am sgwrs gafodd gyda mi ddoe, lle roeddwn wedi cyfeirio at rywbeth nad oedd erioed wedi ei ystyried – y gwahaniaeth rhwng gwraig Lot, a drowyd yn golofn o halen wrth edrych yn ôl tua Sodom, â disgynydd Lot, sef Ruth, a wrthododd droi yn ôl, ond yn hytrach mynd gyda Naomi o wlad Moab i Fethlehem, a thrwy hynny daeth i mewn i linach y Meseia. Roedd John fel arfer yn arbennig, yn hau pob math o wirioneddau gyda’r her i ni fynd adref i ddilyn y pethau hyn ymhellach ein hunain.
Roedd y sgyrsiau yn ein ffrwd apologeteg yn ysgogi’r meddwl llawer. Yn gyntaf roedd Stefan Gustavson yn sôn am pa mor ddibynadwy yw’r pedair efengyl, fel dogfennau i’w astudio er mwyn gweld y gwirionedd am Iesu. Bellach gallwn anghofio’r mantra ryddfrydol oedd yn dweud mai dogfennau hwyrach oedden nhw, ac felly neges Crist wedi ei gymysgu efo syniadau’r Eglwys. Mae’r dystiolaeth mor gryf bellach i ddangos y gallwn fod yn hyderus ein bod yn cael darlun gwir o’n Harglwydd yn y pedair efengyl. Roedd yn drawiadol mor wahanol oedd hyn i’r hyn a glywsom am y Q’uran ddoe.
Yna roedd Peter S Williams yn ein harwain i weld fel ag y mae mwy a mwy o anffyddwyr, yn wyddonwyr ac athronwyr, bellach yn dweud fod yr honiad fod yna feddwl bwriadol y tu ôl i’r bydysawd yn dod yn fwy credadwy.
Bum yn mentora hogyn o Lundain amser cinio, ac yna bum yn gwrando ar fy nghyfaill o Ogledd Iwerddon, John Kirkpatrick, yn sôn am ei waith yn llunio a rhedeg cwrs mewn apologeteg i rai yn y dalaith. Roedd yn ddiddorol clywed fel ag y mae un dyn wedi gallu ennyn brwdfrydedd mewn cymaint i feddwl am sut mae cysylltu gwirionedd y ffydd gyda bywyd a diwylliant ei ddydd.
Bellach mae gennyf un sessiwn mentora i fynd, ac yna bydd y cyfarfod olaf heno gyda phawb yn dod at ei gilydd i ddathlu a diolch.
Daeth diwrnod y teithio. Ond nid y siwrnai oedd yr unig beth ar fy meddwl. Neithiwr, wedi’r cyfarfod olaf, aeth pump ohonom am dro i dafarn heb fod ymhell o’r gwesty lle buom yn aros. Read more…
Gyda’r Fforwm yn tynnu at ei therfyn, dilynodd dydd Mercher yr un patrwm mwy neu lai â’r dyddiau eraill. Roedd brecwast unwaith eto am 7.00, a’r tro hwn daeth dau i gael eu mentora. Mae’r Read more…
Wedi prysurdeb dydd Llun teimlais reidrwydd i geisio cael diwrnod ychydig yn fwy tawel dydd Mawrth. Mae’r boreuau yn olau yma, a chan fod Jerry sy’n rhannu ystafell gyda mi yn codi am 4.30 bob Read more…