Meddwl am Auschwitz (1)

Published by Dafydd Job on

arbeit_macht_freiYn dilyn fy ymweliad ag Auschwitz rai wythnosau yn ol dyma geisio gosod meddwl ar bapur, neu o leiaf ar sgrin cyfrifiadur.

Un o wirioneddau bywyd yw, ble bynnag mae dyn, mae yna ddioddefaint. Gall fod yn boen corfforol neu feddyliol, neu yr hyn yr ydym yn ei alw’n ddioddef yn ein hysbryd. Rhan o her byw yw sut yr ydym i wynebu neu esbonio’r dioddef hwnnw.

Mae yna reddf ynom sy’n mynnu fod yna’r fath beth â drygioni. Mae yna bethau sy’n rhinweddol a da, ac mae yna bethau eraill y gallwn eu galw yn ddrwg a drygionus.
Un o’r mannau lle gwelwn hyn ar ei fwyaf eithafol yw mewn lle fel y cyn wersyll-garchar yn Auschwitz. Mae ymweld â’r man hwn yn codi cwestiynau dwys ynglŷn â natur drygioni, a pham fod y fath beth â’r hyn a gyflawnwyd yno wedi cael digwydd.

Auschwitz oedd y mwyaf o’r gwersylloedd godwyd gan y Natsïaid i ddelio gyda gwrthwynebwyr eu cyfundrefn, ac yn arbenng yr Iddewon. Yn ystod ei bodolaeth danfonwyd o leiaf 1,300,000 o bobl yno – y mwyafrif yn Iddewon. Lladdwyd 1,100,000 yno mewn amrywiol ffyrdd. Roedd 90% yn Iddewon, a bu farw’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y siambrau nwy. Chwalwyd eu llwch ar y tiroedd oddi amgylch i wrteithio’r tir. Meddiannwyd eu heiddo gan y Natsïaid, defnyddiwyd y rhai fedrai weithio fel caethweision ac arbrofwyd ar eraill mewn ffyrdd gwbl annynol.
Un o’r pethau arswydus am yr hyn a ddigwyddodd yno oedd mor drefnus a bwriadol oedd y cyfan. Nid llwythau cyntefig yn rhedeg yn wyllt a di-reol oedd y rhain. Roedd yna ryw weithredu clingol, bwriadol, ac yn aml roedd y creulondeb yn annisgrifiadwy.

Sut ydym i egluro’r hyn a ddigwyddodd? Ni allwn ddweud fod yna ddrygioni cynhenid yn natur yr Almaenwyr. Mae unrhyw un ohonom sydd wedi cwrdd â rhai o’r genedl honno yn gwybod pa mor normal ydynt. Ochr yn ochr â’r erchyllterau, gwelwyd gweithredoedd arwrol gan rai Almaenwyr i geisio atal y drygioni yn wyneb perygl dybryd iddynt hwy eu hunain. Mae nhw yr un fath â ni mewn cymaint o ffyrdd. Mae gweld yr hyn ddigwyddodd dan Joseph Stalin, Mao, neu’r Khmer Rouge, a’r hyn a glywn sy’n digwydd yn rhai o ryfeloedd y dwyrain canol yn ein perswadio fod dyn â’r gallu mewn pob math o amgylchiadau i droi ar ei gyd-ddyn.

Tydi honiad yr Atheistiaid Ffwndamentalaidd, mai crefydd yw gwreiddyn pob drwg, ddim yn dal dŵr, gan fod llywodraethau atheistaidd yr ugeunfed ganrif (Natsïaeth, Comiwnyddiaeth Stalin, Mao, neu Pol Pot ymhlith eraill) wedi bod yn gyfrifol am y lladd mwyaf welwyd yn hanes y ddynoliaeth.
Ond fedrwn ni sy’n honni ffydd ddim pwyntio bys ychwaith i honni mai gwrthod crefydd yw achos pob drygioni, gan i bethau erchyll gael eu cyflawni yn enw Crist, Allah, a chrefyddau eraill y byd.

Y gwir yw fod drygioni fel hyn a’i wnelo â’r hyn ydym ni, a’n natur ni. Pobl wnaeth hyn i gyd. Dyma’r ffactor gyffredin yn hanes y byd. Er fod yna drychinebau naturiol megis daeargrynfau a llifogydd, afiechyd a damweiniau, y gwir yw fod yr hyn mae dyn wedi ei wneud i’w gyd-ddyn yn gosod y cwbl o’r pethau eraill hyn yn y cysgod. Pobl, fel chi a fi, sydd wedi bod yn gyfrifol am y pethau mwyaf ffiaidd, ac os ga i ddefnyddio’r gair, mwyaf dieflyg yn hanes. Pobl hefyd sydd wedi codi i gyflawni gweithredoedd cwbl arwrol, aruchel a mawrfrydig. Problem y natur ddynol yw problem drygioni.