Meddwl am Auschwitz (2)
Adroddai Primo Levi, Iddew o Eidalwr, hanes am y diwrnod y cyrhaeddodd wersyll Auschwitz. Roedd ef a’i gyd-iddewon wedi cael eu cludo gannoedd o filltiroedd ar dren mewn tryc heb fwyd na diod. Y syched oedd yr hyn oedd yn fwyaf creulon. Wedi cyrraedd y gwersyll, ynghanol gaeaf, gwelodd bibonwy o rew y tu allan i’r ffenest y cwt lle roeddent wedi eu cadw. Estynnodd amdano gan feddwl torri ei syched. Daeth milwr heibio a thynnu’r rhew o’i law. Edrychodd Primo arno a gofyn “Warum?” – Pam? Yr ateb a gafodd oedd – “Does dim “pam” fan yma.”
Un o’r pethau sy’n peri ein bod yn gallu wynebu dioddefaint yw’r hawl i ofyn pam fod rhywbeth yn digwydd i ni. Un o ddywediadau Nietzsche oedd “he who has a why to live for can bear with almost any how.”
Un o’r pethau mwyaf dychrynllyd am Auschwitz oedd y cynllun bwriadol i beri i’r Iddewon gredu nad pobl oedden nhw, ond pethau – ac yn waeth na phethau, mai pla oedden nhw fel llygod mawr i gael eu difa, neu i arbrofi arnyn nhw. Felly pan roedden nhw’n cyrraedd y gwersyll y peth cyntaf a wnaed oedd gosod rhif ar eu breichiau a bellach roedd pawb yn cael eu hadnabod wrth eu rhif. Cymrwyd eu papurau, eu heiddo, ac unrhywbeth allai eu cysylltu â bywyd normal. Eilliwyd pob tamaid o wallt oddi ar eu cyrff hyd yn oed. Pan oedd y roll call yn digwydd, y cwestiwn oedd yn cael ei ofyn ar y diwedd oedd “Wieviel stück?” (Sawl darn?). Nid pobl oedden nhw ond darnau. Felly os nad pobl oedden nhw, yna roedd gan y Natzïaid yr hawl i wneud unrhywbeth a fynnent iddyn nhw.
Ac fe wnaethon nhw bethau erchyll iddyn nhw. Roedd y rhan fwyaf yn cael eu gyrru yn syth i’r siambrau nwy. Mi fyddai saith cant ar y tro yn cael eu gyrru i adeilad oedd gyda’r enw “Baddon” uwch y drws. Yna wedi iddyn nhw fynd i mewn, yn hytrach na chael cawod, roedd y nwy gwenwynig yn cael ei ollwng, ac o fewn ugain munud roedden nhw i gyd wedi marw. Yna cludwyd eu cyrff drwodd i’r ystafell nesaf ar droliau, a’u bwydo i’r ffwrneisi. Defnyddiwyd eu llwch i wrteithio’r caeau oddi amgylch i’r gwersyll.
Defnyddiwyd llawer o’r rhai a arbedwyd o’r ffwrneisi fel llafur rhad, ond arbrofwyd ar eraill. Roedd Joseph Mengele yn enwog am arbrofi ar efeilliaid er mwyn darganfod sut y gellid peri bod hil Aryaidd ddelfrydol Hitler yn gallu magu mwy o blant. Roedd un arall o’r meddygon yno yn edrych ar ffyrdd cemegol o atal cenhedlu. Ysgrifennodd at Himmler yn ymffrostio ei fod wedi darganfod ffordd i ddiffrwythloni mil o wragedd y diwrnod.
Teitl y llyfr ysgrifennwyd gan Primo Levi am ei gyfnod yn y gwersyll-garchar oedd If This Is A Man. Mae’n dangos sut oedd y sustem wedi ei chreu er mwyn tynnu ei ddynoliaeth oddi ar yr Iddew (neu pwy bynnag roddwyd yno). Y rhai oedd yn llwyddo i oroesi oedd y rhai a fynnent gadw eu hymwybyddiaeth eu bod yn bobl (Cawn feddwl am hyn eto). Unwaith y llwyddwch i dynnu ei ddynoliaeth oddi ar rhywun mae gennych yr hawl i’w drin fel ag y mynnoch.
Yn ein hoes fwy gwareiddiedig ni, fe benderfynwyd fod yr hyn sydd yn y groth yn ddim byd mwy na chlwstwr o gelloedd, embryo, neu foetus. Ond unwaith y dewiswch eu galw yn blentyn yn y groth, yna mae’r ffaith fod yna 42 miliwn o erthyliadau yn digwydd bob blwyddyn yn ein byd yn peri nad yw ein hoes ni yn ymddangos mor wareiddiedig.
A chofiwch, mae Atheistiaeth ein hoes ni yn mynnu nad yw dyn ond damwain – canlyniad anfwriadol proses ddigyfeiriad. Nid creadur, wedi ei greu ar lun a delw ein Crëwr. Unwaith y cychwynnwch chi ar y llwybr hwn does dim cyfyngu ar yr hyn y gellir ei ystyried. Mae eugenics, euthenasia, hil-laddiad neu chael gwared â’r rhai gwan yn y gymdeithas i gyd yn gyfreithlon ac yn bosib.