Meddwl am Auschwitz (3)
Wrth ymweld â’r gwersyll-garchar yn Auschwitz, un o’r effeithiau arnaf tra roeddwn yno oedd fod yna hiraeth mawr yn codi ynof am ryw arwydd o ddaioni yn wyneb yr erchyllterau mawr. Onid oedd yna rhywbeth y gallwn gymryd gafael ynddo oedd yn gwrth-ddweud y drygioni eithafol yr oedd y lle yn tystio iddo?
Fe ddois o hyd i hyn mewn man annisgwyl. Yn un o’r adeiladau cawsom ein tywys i’r llawr isaf. Yno roedd celloedd amrywiol. Roedd rhai yn ddim ond metr sgwar. Rhoddwyd carcharorion yno, lle nad oedd modd eistedd, a byddent yn gorfod sefyll am ddyddiau heb unrhyw arbediad. Roedd celloedd eraill lle gadawyd rhai heb fwyd, nes eu bod wedi marw o newyn. Yno hefydd roedd y mannau lle poenydiwyd carcharorion.
Soniodd Daria, y ferch oedd yn ein tywys oddi amgylch, am y Tad Maximilian Kolbe. Am iddo gynorthwyo llawer, gan gynnwys 2000 o Iddewon, i ddianc rhag y Natzïaid, fe’i carcharwyd yn Auschwitz. Tra roedd yno, pan ddihangodd tri o’r carchar, dewiswyd deg o garcharorion i gael eu rhoi yn y celloedd i newynu i farwolaeth (fel ffordd o annog eraill i beidio dianc). Pan lefodd un o’r deg “Fy ngwraig, fy mhlant!” cynigiodd y tad Maximilian gymryd ei le. Bu yn y gell newynu am bythefnos, nes bod pawb arall yno wedi marw. Ef yn unig oedd ar ol, felly rhoddwyd chwistrelliad marwol o asid carbolic i’w ladd.
Roedd modd i rywun ddewis llwybr gwahanol, hyd yn oed yn wyneb y fath erchylldra.
Wedi dychwelyd i’r gwesty yn dilyn ein hymweliad, cawsom wylio ffilm – Weapons of the Spirit – am bentref yn Ffrainc o’r enw Le Chambon-sur-Lignon. Dyma bentref lle roedd y bobl o gefndir Huguenot, a’r mwyafrif llethol o’r trigolion yn arddel ffydd yng Nghrist. Yn ystod y rhyfel o dan arweiniad eu gweinidog, André Trocmé, rhoddwyd lloches i filoedd o Iddewon oedd yn ffoi rhag y Natzïaid. Yn y ffilm gwelwyd cyfweliadau gyda rhai o’r trigolion, oedd bellach yn eu hwythdegau. Pan ddywedwyd wrthynt eu bod yn arwyr am fentro eu bywydau fel hyn, roeddent yn wfftio at y syniad. Eu hymateb oedd mai ffermwyr cyffredin oedden nhw. Roedd eu Harglwydd wedi gofyn iddyn nhw wneud dau beth: Caru Duw, a charu eu cyd-ddyn. Y cyfan wnaethon nhw oedd caru eu cyd-ddyn fel roedd Duw wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.
Nid Cristnogion oedd yr unig rai i gyflawni gweithredoedd arwrol yn wyneb drygioni’r Natzïaid, ond roedden nhw yn dangos fod modd dilyn llwybr gwahanol. Does dim rhaid i ddrygioni gael y gair olaf.