Meddwl am Auschwitz (5)

Published by Dafydd Job on

Josef Mengele - "Angel Marwolaeth"

Josef Mengele – “Angel Marwolaeth”

Ar y bws oedd yn dychwelyd o’r gwersyll doedd neb yn dweud llawer. Roedd pawb yn ceisio meddwl sut i ymateb, a chafwyd cyfle i drafod wedi i ni gyrraedd yn ôl i’r gwesty lle roeddem yn cynadledda.

Un ymateb gafwyd wedi ein hymweliad oedd hyn: “Mae bodolaeth Auschwitz yn hawlio bod uffern yn bod.” Yr hyn oedd yn cael ei ddweud oedd bod rhaid galw’r bobl oedd yn cyflawni’r erchyllterau hyn i gyfrif rhywsut. Er i nifer gael eu dal, eu barnu a naill ai eu dienyddio (fel Rudolf Hoess – comandant gwersyll Auschwitz) neu eu carcharu am weddill eu hoes, rhywsut doedd hynny ddim yn teimlo’n ddigon. Ac wrth gwrs, fe ddihangodd sawl un, megis Joseph Mengele a ddihangodd i dde America a byw yno weddill ei oes. Oni ellid eu galw i gyfrif, yna doedd dim tegwch.

Mae’r reddf hon yn ein calonnau yn rhywbeth dwfn tu hwnt. Mae pob un ohonom gyda ryw syniad o gyfiawnder, a bod y cyfiawnder hwnnw yn beth y dylid ei geisio.

Tydi’r Atheistiaeth Newydd ddim yn cynnig unrhyw gysur yn wyneb y fath ddrygioni. Ateb yr athroniaeth honno yw nad oes synnwyr na threfn yn y byd. Damweiniol yw popeth, ac felly does dim disgwyl y bydd yna ddwyn rhai i gyfrif.  Dyna pam y gallai Richard Dawkins ddweud mewn ymateb i gwestiwn am yr holocost, efallai nad oedd yn hoffi beth ddigwyddodd, ond ni fedrai ei alw yn ddrwg (evil), gan nad yw yn gategori ystyrlon mewn byd digyfeiriad, dibwrpas. Fe gafodd Mengele ddianc heb ddim byd gwaeth nac ofni efallai y byddai rhywun, rhyw ddydd, yn ei ddal. Ond fedr y mwyafrif ohonom ddim cysgu’n dawel gyda’r golwg hwnnw ar fywyd.

Ateb crefyddau’r Dwyrain yw y bydd y sawl a gyflawnodd y fath bethau erchyll yn talu amdano wrth ddod yn ol naill ai mewn ffurf is o fywyd, neu fel person fydd efo Karma drwg (re-incarnation.)

Ond ateb y Beibl i gwestiwn drygioni yw y bydd yna alw i gyfrif. Daw dydd y farn, ac mae yna’r fath beth ag ufern lle y cosbir pob pechod ac y caiff pob trosedd dderbyn ei gyfiawn dâl. Fydd Mengele ddim wedi cael dianc, na Jimmy Saville a gyflawnodd y fath droseddau rhywiol yn ein dyddiau ni. Daw dydd dial – ond nid dial fel ag yr ydym ni yn meddwl amdano. Bydd cyfiawnder yn cael ei orseddu.

Mae hynny’n gysur i bawb a ddioddefodd. Mae’n golygu na chaiff un cam wnaed iddyn nhw ei anwybyddu. Mae hefyd yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw ddal gafael mewn ysbryd o ddial. Gallant ymddiried bydd y Duw cyfiawn yn gweithredu cyfiawnder.
Ond mae hefyd yn her. Er i ni frawychu at yr hyn ddigwyddodd yn yr holocost, y gwir yw fod y mwyafrif o filwyr, yn wŷr a gwragedd, fu’n rhan o’r gormes, yn bobl fel chi a fi. Wrth edrych i fewn i’n calonnau ni fe welwn fod hadau’r troseddu ynom ni. Pwy a ŵyr pa bethau y gallem ni gael ein tynnu i mewn iddyn nhw. Mae dydd yn dod i ninnau gael ein galw i gyfrif am ein gwrthryfel.

I’r byd gwrthryfelgar hwn felly daw efengyl Iesu Grist â’i neges am gyfiawnder a maddeuant; am ddial ar ddrygioni ac am ras tuag at yr edifeiriol.