Meddwl am Auschwitz (6)
Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi yn aml yng nghyd-destun yr holocost yw “Faint oedd yr Almaenwyr yn gyffredinol yn ei wybod am yr hyn oedd yn digwydd?” Mae’n rhaid eu bod yn gwybod rhwyfaint, oherwydd roedden nhw wedi gweld yr hyn ddigwyddodd yn y dinasoedd wrth i’r Iddewon gael eu cyfyngu i’r ghettos, a gweld miloedd ohonynt yn diflannu i’r gwersylloedd. Os nad oeddent yn gwybod beth yn union oedd yn digwydd yno, na maint y creulondeb, eto roedd yn rhaid eu bod yn gwybod rhywfaint.
Un o’r ymadroddion wnaeth fy nharo i oedd hwnnw gan Primo Levi, yr Iddew o Eidalwr oroesodd ei amser yn Auschwitz. Wrth ymateb i’r cwestiwn hwn o faint oedd yn wybodaeth gyffredin mae’n dweud hyn: “In spite of the varied possibilities for information, most Germans didn’t know because they didn’t want to know. Because, indeed they wanted not to know.” (If this is a man / The Truce t.386)
Roedd yr awdurdodau yn sicr yn codi braw ar y boblogaeth, fel bod y rhai oedd yn gwybod ddim yn siarad, ond doedd y rhai oedd ddim yn gwybod ychwaith ddim yn holi. Doedd neb yn credu mai sanatoriums oedd y gwersylloedd. Roedd pawb yn gwybod fod y carchardai yn gorlifo, a bod llawer yn cael eu lladd. Ond heb wybod y ffeithiau yn iawn, doedd dim cyfrifoldeb i weithredu i atal yr erchychter.
Rhag ein bod ni yn dechrau pwyntio bys at yr Almaenwyr, mewn oes lle mae mwy o wybodaeth ar led nag erioed o’r blaen, onid ydym ni yn dewis peidio gwybod – rydym ni, fel hwy, eisiau peidio gwybod am rai o’r pethau sy’n digwydd yn y byd. Oherwydd unwaith rydym yn gwybod, yna mae cyfrifoldeb arnom i ystyried beth sydd yn rhaid i ni ei wneud.
Oherwydd hynny rydym yn ofni gwybod y gwirionedd am newyn y byd. Rydym yn ofni darganfod y gwir am y modd mae cyfalafiaeth y gwledydd cyfoethog yn tagu economi’r gwledydd tlawd. Rydym yn ofni gwybod y gwir am y bobl sy’n cynhyrchu ein dillad, ein esgidiau, ein bwydydd am gyflog pitw dan amgylchiadau ofnadwy. Rydym yn ofni gwybod y gwir am ffigyrau erthylu yn ein byd…. Ac felly gallwn gysgu’n dawel yn y nos, tra mae ein cyd-ddyn yn dioddef.
Rydym yn ymesgusodi trwy ddweud fod y cyfan yn ormod i ni fedru ddelio ag o, ac fel Cain yn gofyn “Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?” Ond fel ag yr oedd llef gwaed Abel yn gweiddi o’r ddaear, felly mae llef miliynnau yn gweiddi yn erbyn ein difaterwch bwriadol ni.
Ac er na fedrwn atal yr holl ddioddef sydd yn ein byd ar y funud, eto mae lle i ni holi oes yna rhywbeth ddylem ni fod yn ei wneud?