Cynhadledd UFM 2

Published by Dafydd Job on

Heledd yn sôn am ei gwaith

Heledd yn sôn am ei gwaith

Mae’r golwg ar waith Duw mewn gwahanol wledydd yn hynod o gynorthwyol fan yma. Mae gennym ni’r Cymry allu rhyfeddol i weld ein problemau ni fel rhai mwy na phawb arall. Mae gweld y sialensau mae pobl eraill yn eu hwynebu, a’r hyn mae Duw yn ei wneud trwy bobl eraill yn gallu ein codi o’n hunan-dosturi a’n parlys.

Fedra i ddim sôn am bopeth sydd wedi ei rannu yma. Roedd un cwpl er enghraifft yn sôn am eu gwaith gyda Moslemiaid mewn rhan o Lundain. Nid mater bach yw i un droi o grefydd Islam hyd yn oed yng ngwledydd Prydain. Clywsom hefyd dystiolaeth merch o dde Korea sydd wedi dod yn Gristion ers dod i Brydain i fyw, ac sydd wedi mynd i weithio ymhlith Moslemiaid yn un o wledydd y Dwyrain Canol. Mae cwpl arall (Jerry a Joy) fuodd yn siarad â ni yn gweithio yn Kurdistan, yng ngogledd Iraq. Mae rhain yn gweld ffoaduriaid yn dod o Syria, ac o’r ardal a feddiannwyd gan Isis. Felly rhaid bod yn ofalus sut mae’r newyddion yn cael ei rannu. Mae calondid mawr o wybod fod Duw gyda’i weision yn y mannau hyn. Soniai Jerry a Joy am yr hedyn mwstard, sy’n cael ei fwrw i’r tir ac yn tyfu yn y dirgel. Pwy a ŵyr beth fydd y ffrwyth i’w tystiolaeth mewn rhai blynyddoedd.

Roedd yn galondid mawr gweld dwy o’n cysylltiadau ni yn cael cyfle i rannu am eu gwasanaeth. Mae Lydia Adams wedi cael ei derbyn i barháu yn Slovenia dan adain UFM. Cafodd ei chyfweld yn un o’r cyfarfodydd, a chael dweud am yr hyn mae wedi bod yn ei wneud, a’i gobeithion am y dyfodol.

Yna bu Heledd yn rhannu am ei gwaith yn Slovakia. Mae gosod ei gwaith yng nghyd-destun y pethau eraill mae Duw yn ei wneud drwy’r byd rhywsut yn gwneud y darlun yn fwy cyflawn. Mae fel gwneud jig-so mawr, a’i darn arbennig hi o’r gwaith yn ffitio i mewn i’r darlun mawr.

Neithiwr buom yn gwrando ar Stephen Dray, sy’n weinidog yn Southport, ond sydd yn gwneud gwaith tebyg i minnau, yn ymweld â Georgia ac Armenia i galonogi a hyfforddi pregethwyr/gweinidogion. Rydym am geisio cwrdd cyn bo hira i gyd-lynu yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn bod o gymorth i’n gilydd.

Bu Andy a Tatyana Ball yn adrodd sut mae pethau yn yr Iwcraen. Mae Andy o Loegr, a Tatyana o ardal Kharkiv yn yr Iwcraen sydd wedi bod yn y newyddion gymaint yn ddiweddar. Baich Andy yw hyfforddi pregethwyr a gweinidogion, ac er bod yr eglwys mewn rhai ffyrdd yn gryf yn y wlad, mae’r pregethwyr yn aml yn ddi-hyfforddiant, ac angen cymorth. Gyda’r terfysg sydd wedi bod yn y wlad bu’n rhaid iddyn nhw ddod oddi yno yn gynharach eleni. Mae’r gwaith hyfforddi wedi peidio ar y funud. Ond wedi dweud hynny mae pethau eraill yn digwydd. Mae Tatyana yn gallu mynd yn ôl, a’i gweinidogaeth hi yno yn datblygu. Bu hi’n dioddef o gancr difrifol, gyda’r meddygon yn y wlad hon heb roi llawer o obaith y byddai’n gwella. Ond mae bellach wedi bod yn rhydd o’r afiechyd ers deunaw mis. Wrth rannu sut mae Duw wedi bod yn delio â’i chalon dry’r cancr mae wedi gallu cael gweinidogaeth gyda’r gwragedd – rhai y mae wedi tyfu yn eu plith ond sydd hyd yma wedi bod yn gwrthod ymateb. Ar ben hyn mae ffoaduriaid o’r ardaloedd lle mae terfysg wedi bod angen cymorth. Mae tua 80,000 o ffoaduriaid wedi dod i ardal Kharkiv, a’r tebygrwydd y byddan nhw’n gorfod wynebu’r gaeaf yn ddi-gartref, yn golygu bod cyfle mawr i’r eglwysi fod o gymorth.

Uchafbwynt neithiwr yn ddi-os oedd gwrando ar Maureen Wise yn sôn am ei gwaith yn Moldova. Daw Maureen o eglwys yr Heath yng Nghaerdydd, ac mae wedi bod allan yn Romania, ac yna ym Moldova yn y blynyddoedd diwethaf. Dangoswyd ffilm drawiadol yn egluro ei gwaith. Dyma’r wlad dlotaf yn Ewrop. Aethpwyd â ni i institution yno lle mae’r methedig wedi eu gosod – roedd y digalondid a’r amgylchiadau yn dorcalonnus, gyda’r anabl yn methu gwneud dim ond eistedd drwy’r dydd. Yna dangoswyd y tai mae Maureen a dwy arall wedi bod yn eu trefnu, lle dygir rhai o’r bobl hyn i ofalu amdanynt. Roedd gweld y newid yn amgylchiadau’r bobl, a’r llawenydd amlwg ar eu wynebau yn dystiolaeth wych i gariad Duw yn estyn allan atyn nhw. Mae’r pedwerydd tŷ wrthi yn cael ei godi ar hyn o bryd gan wirfoddolwyr o’r wlad hon.
Yna siaradodd Maureen am ychydig. Roedd yn sôn am ei gwendid a’i ffolineb ei hunan ar y naill law, ond ar y llaw arall fel y mae nerth Duw yn gwneud pethau rhyfeddol. Cynhaliwyd ymgyrch y llynedd ymhlith y bobl anabl hyn, a thros y flwyddyn diwethaf mae sawl un ohonyn nhw wedi dod i gredu yn yr Arglwydd fel eu Gwaredwr. Bu cyfnod o ddiwygiad ym Moldova yn y nawdegau. Nid yw’n ddiwygiad ar hyn o bryd, ond mae yna bethau gwych yn digwydd. Soniodd fel ag y mae’r bobl fethedig hyn wedi newid – rhai ohonyn nhw mewn ffordd gwbl annisgwyl. Roedd ei thystiolaeth yn arbennig, ac yn codi hiraeth am weld mwy o nerth Duw ar waith yn ein heglwys a’n cymdeithas ni ym Mangor.

Mae Duw yn fawr, a perffeithir ei nerth Ef yn ein gwendid ni.