Tymor yr Adfent 2014

Published by Dafydd Job on

Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.” (‭Eseia‬ ‭40‬:‭3‬ BCN)

images (5)Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain.

Nid fy mwriad yw gweiddi  “Bah! Humbug!” ar y cwbl (mae yna rhai fydd yn gwneud hynny). Ond fe hoffwn i trwy gyfrwng ychydig o eiriau bob dydd ein hatgoffa i gadw ein perspectif drwy’r wythnosau nesaf.

Felly dyma ddechrau drwy droi at eiriau’r proffwyd Eseia. Byddai Israel mewn caethiwed wrth glywed y geiriau hyn. Roedd Babilon, y grym gwleidyddol mawr, wedi concro’r wlad a chymryd y mwyafrif o’r bobl o’u tir eu hunain. Iddyn nhw, roedd cael eu halltudio o’u gwlad yn golygu cael eu gwahanu oddi wrth Dduw. Ond dyma air y proffwyd yn dod atyn nhw – mae Duw ar ei ffordd i ddod atoch chi. “Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.” Fe ddaw i’ch gwaredu, a’ch arwain yn ôl ato.

A dyma air wireddwyd yn y Testament Newydd, wrth i Ioan Fedyddiwr gyhoeddi fod yna Un yn dod. Yn wir roedd wedi dod eisioes – Emaniwel, sef Duw gyda ni. Dyma’r baban a anwyd ym Methlehem.

Dyma air i ninnau hefyd. Mae gennym ychydig dros dair wythnos i baratoi. Gadewch i ni gyda’n gilydd dreulio ychydig o funudau bob dydd yn paratoi ffordd yn ein calonnau i ddathlu dyfodiad yr Arglwydd Iesu i fod yn Waredwr y byd, a’n Gwaredwr ninnau.

Tua Bethlem dref
Awn yn fintau gref,
Ac addolwn Ef.
Gyda’r llwythau
Unwn ninnau
Ar y llwybrau
At y crud.
Tua’r preseb awn
Gyda chalon lawn
A phenlinio wnawn.
(Wil Ifan)