Tymor yr Adfent 2014, 2
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (Salmau 42:1 Cyfieithiad William Morgan)
Mae hiraeth yn un o’r geiriau hynny sy’n arbennig i’r iaith Gymraeg. Mae’n anodd ei gyfieithu – ac eto mae’n brofiad cyffedin i bawb. Mae’n mynegi rhyw anfodlonrwydd gyda’n sefyllfa, a dymuniad i fod naill ai gyda rhywbeth arall, mewn rhyw le arall, neu gyda pherson absennol.
Wrth gwrs mae modd lleddfu hiraeth trwy lenwi ein meddwl â phethau eraill – gwneud rhyw orchwyl neu mwynhau rhyw brofiad sy’n gwneud i ni anghofio ein hiraeth dros dro. Ond mae gwir hiraeth yn gwrthod ein gadael.
Tybed ydi’r gair bach hwn yn egluro llawer o’r hyn a welwn ni yn y cyfnod hwn? Mae pobl yn ceisio pethau yr adeg hon o’r flwyddyn – ceisio bargeinion gwell (fel y gwelsom ychydig ddyddiau yn ôl ar Black Friday), chwilio am deganau newydd i fod yn anrhegion Nadolig, edrych ymlaen at raglenni teledu, ychydig ddyddiau o orffwys, neu rhyw fwydydd moethus. Ai ymgais ydi hyn i leddfu rhyw hiraeth yn ein calonnau am rhyw ystyr dyfnach i’n bodolaeth, neu rhyw berthynas mwy parhaol?
Roedd y Brenin Dafydd wedi wynebu pob math o sefyllfaoedd, wedi profi llawer o wahanol bethau ac wedi cael cwmni gwahanol bobl. Ond roedd wedi dod i sylweddoli mai dim ond un peth fedrai fodloni yr hiraeth yn ei galon ei hun – cwmni Duw. Pan oedd pob cysur arall yn diflannu – dim ond un peth – neu yn fwy cywir – Un Person fedrai ei fodloni. Daeth i’w feddwl y dyddiau pan oedd yn gwarchod defaid yn y mynyddoedd, a chlywed hydd yn y tymor sych yn brefu am ddŵr, a dyma oedd yn darlunio’r hyn oedd yn ei galon. Dim ond un peth fyddai’n lleddfu syched yr hydd, a dim ond un peth fyddai’n lleddfu gwacter ei galon yntau.
Ganrifoedd wedi amser Dafydd fe ddywedodd Awstin yr un peth mewn ffordd ychydig yn wahanol – Fe’n creaist er dy fwyn dy hun, ac ni fydd ein calonnau’n llonydd nes y cânt orffwys ynot Ti.
Roedd C. S. Lewis, yr awdur Cristnogol, yn gweld yr hiraeth hwn fel un arwydd o fodolaeth Duw. Fel ag y mae syched yn arwydd fod yna rhywbeth megis dŵr yn bod er mwyn torri’r syched hwnnw, neu newyn yn arwydd fod y fath beth â bwyd yn bodoli, felly mae hiraeth ein calonnau am yr ysbrydol, am yr hyn sy’n fwy na’r materol, yn arwydd fod yna Un sydd yn gallu bodloni’r hiraeth hwn.
Fe fydd pobl yn llenwi eu hamser, eu cartrefi, eu stumogau a’u llygaid gyda phob math o bethau yn ystod yr wythnosau nesaf hyn – ac fe fyddaf finnau yn mwynhau llawer o bethau rwy’n siwr. Ond bydd yr hiraeth, yr anfodlonrwydd gwaelodol, y teimlad fod yna rhywbeth ar goll yn ein bywyd yn dychwelyd eto wedi’r ŵyl.
Felly wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, cofiwn mai paratoi lle i Dduw yn ein calon yw pwynt y cyfan a wnawn.