Tymor yrAdfent 2014, 3
Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. (Luc 2:25 BCN)
Roeddwn i’n meddwl ddoe am yr hiraeth sy’n bodoli yn ein calonnau. Beth sy’n troi hiraeth yn obaith, neu yn ddisgwyliad?
Bydd plant yn edrych ymlaen at y Nadolig, gan obeithio, a hyd yn oed disgwyl derbyn rhai anrhegion. Sut mae eu gobaith wedi troi yn fwy na syniad yn yr awyr – wishful thinking? Tybed nad cymeriad ac addewidion eu rhieni? Mae nhw’n adnabod eu rhieni, ac mae rheini wedi dweud wrthyn nhw bydd pethau da yn digwydd ar fore Dydd Nadolig.
Felly gyda ninnau a’r hiraeth yn ein calonnau am rhwybeth fydd yn dod â diwedd ar ddrygioni a dioddefaint, ac yn bodloni ein dymuniad am dangnefedd. Wrth edrych ar y byd, mae’n anodd gweld o ble daw bodlonrwydd. Ond mae gennym ni Dduw da, ac mae hwnnw wedi rhoi addewidion i ni.
Dyna pam ryden ni’n ffeindio fod yna bobl ar ddechrau’r Testament Newydd fel Sachareias ac Elisabeth, Simeon ac Anna oedd yn “disgwyl am ddiddanwch Israel”. Roedden nhw’n gwybod am addewidion rhyfeddol yr Hen Destament, ac yn gwybod am gymeriad dibynadwy y Duw oedd wedi rhoi yr addewidion hynny.
Mae yna rhyw undod rhyfeddol yng nghyfeiriad yr Hen Destament o Genesis i Malachi, a’r baban anwyd ym Methlehem yw ffocws y cyfeiriad hwnnw. Felly ar ddechrau’r Beibl cawn yr addewid am “Had y wraig” oedd yn mynd i ddistrywio gweithredoedd Diafol (Genesis 3:15); Clywn am Broffwyd oedd yn mynd i egluro ffyrdd Duw i ni (Deuteronomium 18:15); Daw addewid am forwyn fydd yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a’i enw fyddai Immanuel (Eseia 7:14); fe glywn hyd yn oed mai ym Methlehem y byddai’n cael ei eni (Micha 5:2), ac y byddai Ioan Fedyddiwr – proffwyd yn dod yn nerth ac ysbryd Eleias – yn paratoi’r ffordd o’i flaen (Malachi 4:5-6).
Profiad rhwystredig yw dod i mewn ar ganol sgwrs, heb ddeall yr hyn sydd wedi ei ddweud o’r blaen. Yr un modd, mae’n anodd deall beth sy’n digwydd mewn ffilm, os ydych wedi colli yr hanner awr cyntaf o’r stori. Felly fedrwn ni ddim gwir werthfawrogi yr hyn ddigwyddodd ym Methlehem heb wybod beth sydd wedi digwydd ynghynt yn y Beibl. Rhan o ddyfnhau ein dealltwriaeth o arwyddocád y Nadolig yw myfyrio a meddwl am yr addewidion roddodd Duw o flaen llaw i’w bobl.
Wele, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroda’ ‘rioed;
Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol ryw.