Tymor yr Adfent 2014, 4
A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a’i fod yn deg i’r golwg ac yn bren i’w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3:6 BCN)
“A beth wyt ti isio i Sion Corn ddod i ti?” Dyma’r cwestiwn fydd yn cael ei ofyn i blant yn ddi-ben draw yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae plant yn cael eu hannog i ddychmygu beth fydden nhw’n hoffi ei gael. Dyma ran o’r edrych ymlaen, o godi’r disgwyliadau am y diwrnod mawr.
Mae Dumbledore yn dweud yn y cyntaf o nofelau Harry Potter mai problem pobl yw ein bod yn aml yn dewis y peth anghywir. Mae’n cyfeirio yno at y ffaith fod y rhan fwyaf yn meddwl bod cael stor ddi-ben-draw o aur, a byw yn hir yn mynd i sicrhau llawenydd i ni. Er nad yw nofelau Harry Potter yn ffynhonell o wirionedd i seilio ein bywyd arno, eto rhan o her byw yw gwybod beth i ddewis i leddfu’r hiraeth sydd yn ein calon. Mor aml yn hanes y ddynolryw fe ddewisodd pobl yr hyn oedd yn anghywir.
Cymrwch Efa, er enghraifft, yng ngardd Eden. Dywedodd Duw “Paid bwyta o’r pren ynghanol yr ardd, neu fe fyddi’n marw.” Dywedodd y sarff “Na, fyddi di ddim yn marw. Mae Duw just am dy gadw yn dy le.” Fe ddywedodd y sarff wrthi – “Os gwnei di fwyta o’r pren ynghanol yr ardd, yna fe fyddi fel Duw.” Roedd Duw eisioes wed dweud “Rwyt ti fel Duw yn barod, am i mi dy greu ar fy llun a’m delw i.” Roedd Duw wedi dweud wrthi, “Rydw i wedi rhoi popeth da i ti yn yr ardd.” Dywedodd y sarff “Mae Duw wedi cadw yr un peth da oddi wrthyt ti. Dim ond i ti gymryd hwnnw, ac fe fyddi’n hapus.” Dewisodd gredu’r sarff, a dyma osod patrwm sydd wedi ei ail-adrodd dro ar ôl tro yn hanes dynolryw.
Dewisodd Cain anwybyddu rhybudd Duw (Genesis 4:7), ac fe drodd yn alltud ar grwydr. Dewisodd gwraig Lot anwybyddu rhybudd angel Duw (Genesis 19:17), ac fe’i trowyd yn golofn o halen. Dewisodd y Brenin Dafydd anwybyddu gorchymyn Duw wrth chwennych gwraig ei gymydog, ac er iddo dderbyn maddeuant Duw daeth gofid ac anrhefn i’w fywyd ac i’w deulu.
Ryden ni wedi meddwl ychydig am yr hiraeth sydd yng nghalon pob un ohonom y dyddiau diwethaf. Perygl pob un ohonom yw bodloni ar rhy ychydig. Roedd C. S. Lewis arfer dweud mai nid ein problem yw fod ein chwantau yn rhy gryf, ond eu bod yn rhy wan, a’n bod yn cael ein bodloni yn rhy hawdd. Rydym yn cael ein bodloni gan fwyd, diod, rhaglenni teledu, anrhegion Nadolig. Rydym wedi ein creu i fwynhau rhywbeth llawer mwy – cwmni Brenin y Brenhinoedd!
Peidiwch â’m cam-ddeall. Nid dweud “Bah! Humbug!” ydw i, ac na ddylem fwynhau’r pethau ddaw adeg y Nadolig. Ond rhaid i ni beidio gadael i’r pethau hynny ein cadw rhag y trysor mawr.
Peraidd ganodd sêr y bore
Ar enedigaeth Brenin nef;
Doethion a bugeiliaid hwythau
Deithient i’w addoli Ef.
Gwerthfawr drysor!
Yn y preseb Iesu gaed.
Dyma Geidwad i’r colledig,
Meddyg i’r gwywedig rai;
Dyma un sy’n caru maddau
I bechaduriaid mawr eu bai!
Diolch iddo
Byth am gofio llwch y llawr.
Brenin tragwyddoldeb ydyw,
Llywodraethwr daer a ne’;
Byth ni wêl tylwythau’r ddaear
Geidwad arall ond Efe.
Mae e’n ddigon,
Y tragwyddol fywyd yw!