Tymor yr Adfent 2014, 5
Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15 BCN)
A oeddwn yn rhy galed ar Efa ym myfyrdod ddoe? Hi oedd y cyfrwng i’r sarff ddwyn gofid i’n byd. Trwyddi hi daeth pechod yn rhan o’n natur. Mae’r hanes yn Genesis yn dweud wrthym fod Adda yn gyd-gyfrifol am y bai, am nad ataliodd hi rhag bwyta; yn hytrach ymunodd gyda hi mewn gwrthryfel yn erbyn gorchymyn Duw. Ond hi gymrodd y ffrwyth.
Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain. (Genesis 3:7 BCN)
Tybed fedrwn ni ddychmygu ei gofid wrth i’w llygaid gael eu hagor i weld beth oedd hi wedi ei wneud. Yn sydyn fedren nhw ddim edrych ar ei gilydd heb deimlo mesur o gywilydd – nid cywilydd o weld noethni. Cywilydd o wybod na fedren nhw edrych gyda llygaid pur. Mi fyddai yna gyhuddiad ym mhob edrychiad o hyn allan.
Ond yna mae Duw yn ymddangos yn yr olygfa. Nid yw’n esgusodi pechod Efa ac fe fydd yn rhaid iddi ddwyn rhai canlyniadau i’w gwrthryfel. Ond neges fawr y bennod hon yw fod Duw yn drugarog. Fe ddaw Gwaredwr, ac nid hynny yn unig fe fydd gan Efa ei rhan yn y cynllun, oherwydd mai ei had hi fydd y Gwaredwr hwnnw. Fe fydd ffrwyth ei chorff hi yn dad-wneud y drwg mae’r diafol wedi ei gyflawni. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (1 Ioan 3:8 BCN) Fel y dywedodd Ann Griffiths:
Mewn addewid gynt yn Eden
fe gyhoeddwyd had y wraig.
Os mai hi oedd cyfrwng cwymp y ddynolryw, Efa hefyd fyddai’r cyfrwng i Waredwr gael ei eni. Felly pan anwyd ei mab cyntaf tybed ai ei gobaith oedd mai hwn fyddai’r had? Fe’i siomwyd yn hynny, ond filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach fe gyflawnwyd yr addewid, gyda sawl gwraig annisgwyl arall yn rhan o’r cynllun hefyd – Tamar y Ganaanees, Rahab y butain, Ruth y Foabes, Bathseba gwraig Ureias, ac yn ddiwethaf, Mair y forwyn o Nasareth.
Tybed oes yna rhywun sy’n darllen y geiriau hyn heddiw sydd yn holi, “Beth all Duw ei wneud yn fy mywyd i?” Oes yna elfen o siom yn eich holi, a hyd yn oed anghrediniaeth y gallai Duw fod â lle yn ei gynllun ar eich cyfer chi?
Cofiwch, wedi i Pedr wadu Crist dair gwaith fe gafodd ei adfer a’i wneud yn arweinydd yr Eglwys Fore; wedi i Saul o Darsus erlid yr eglwys derbyniodd drugaredd a’i wneud yn Paul, apostol y cenhedloedd; wedi i Mair Magdalen gael ei meddiannu â saith ysbryd aflan, cafodd ei rhyddhau, a’i gwneud yn dyst cyntaf atgyfodiad Crist; ac wedi i Efa gymryd y ffrwyth oedd wedi ei wahardd, fe’i gwnaed yn gynfam Gwaredwr y byd.