Tymor yr Adfent 2014, 6
Mae’n benwythnos, ac felly i amryw dyma gyfle i ymlacio ychydig. Does dim rhaid mynd i’r gwaith, ac mae mwy o amser i wneud pethau gwahanol, neu i feddwl am bethau gwahanol. Felly heddiw fe hoffwn feddwl ychydig bach am amser.
Roeddem yn meddwl ddoe am yr addewid roed yng ngardd Eden y byddai un yn dod – had y wraig – a fyddai’n concro Satan a dinistrio ei waith. Cwestiwn sydd wedi poeni amryw yw: Pam fod cymaint o amser wedi mynd heibio rhwng yr addewid hwnnw a roddwyd, a’r cyflawni yn Iesu Grist? Fe basiodd miloedd o flynyddoedd rhwng y ddau ddigwyddiad!
Mae’r Beibl yn sôn am amser mewn gwahanol ffyrdd. Weithiau mae’n gallu sôn yn nhermau oriau, dyddiau neu flynyddoedd. Dyma’r syniad tu ôl y gair Groeg “chronos”. Fe fyddwn ni yn aml yn meddwl yn y termau hyn. Rydym yn mesur amser mewn oriau, munudau, eiliadau, ac erbyn heddiw micro-eiliadau. Ond ryden ni gyd yn gwybod fod yna adegau pryd mae eiliadau yn llusgo ac yn ymddangos fel oriau, pan fyddwn yn disgwyl yn surgery’r meddyg, neu pan fyddwn yn methu cysgu yn y nos. Ar y llaw arall mae amser fel petai yn hedfan – mae gennym gymaint o bethau i’w gwneud a does dim digon o oriau yn y dydd i’w cyflawni.
Mae yna hefyd rai adegau sy’n fwy arwyddocáol nag eraill. Mae pobl weithiau yn sôn am “life changing moment” – rhyw adeg neu ddigwyddiad oedd yn newid cyfeiriad bywyd rhywun, neu newid cwrs hanes mewn rhyw ffordd. (Mae gan yr iaith Groeg air ar gyfer y math hwn o amser – kairos.)
Felly yn hanes cyflawni addewid Eden, roedd yna adegau arbennig – digwyddiadau oedd yn arwyddocáol yn hanes paratoi’r ffordd ar gyfer Had y Wraig. Yn eu plith gallem sôn am yr adeg y galwyd Abram i adael ei deulu a’i gartref, gan ddweud wrtho: “Bendithiaf y rhai sy’n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy’n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear.” (Genesis 12:3 BCN). Neu beth am y dydd yr oedd Moses yn crwydro yn yr anialwch, a galwodd Duw arno o ganol y berth gan ddweud: “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau. Yr wyf wedi dod i’w gwaredu o law’r Eifftiaid, a’u harwain o’r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang. (Exodus 3:7-8 BCN) Gallem feddwl am gymaint o ddigwyddiadau fel hyn – yr adeg yr eneinwyd Dafydd yn Frenin, neu’r diwrnod pan aeth Eseia i’r deml a gweld yr Arglwydd yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus.
Rhaid oedd paratoi’r ffordd, ac fel y dywed yr Apostol Paul wrth eglwys y Galatiaid: “pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i’r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad.” (Galatiaid 4:4-5 BCN)
Hyd yn oed o fewn hanes bywyd Iesu, gallai y Gwaredwr sôn nad oedd ei awr wedi cyrraedd eto. Roedd yn ymwybodol fod cynllun ei Dad nefol yn dda, ac amseriad y cynllun hwnnw yn berffaith.
Ond mae trugaredd Duw wedi gwneud rhywbeth rhyfeddol gydag amser ar ein cyfer ni. Fe welwn hyn yng ngeiriau Crist wrth ei frodyr yn efengyl Ioan: “eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.” Yr hyn mae’n ei ddweud yw fod unrhyw amser (chronos) i ni yn gallu troi yn un o arwyddocád (kairos). Os gwnawn ni geisio Duw, gall heddiw fod yn ddydd bythgofiadwy, fydd yn adeg pan brofwyd trugaredd a daioni Duw gennym mewn ffordd newydd. I ambell un efallai mai heddiw fydd y diwrnod i chi brofi Duw yn eich derbyn fel plentyn am y tro cyntaf. I eraill ohonom efallai mai dyma’r dydd y cawn sôn am Iesu wrth gyfaill neu gymydog. I eraill bydd heddiw yn amser y bydd nerth Duw yn help arbennig wrth i chi wynebu sefyllfa sy’n ymddangos yn rhy fawr ac anodd i chi.
Heddiw cymrwch eich amser i geisio Duw, a trowch eich chronos yn kairos.