Tymor yr Adfent 2014, 7
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Mae carolau yn rhan annatod o’r Nadolig i’r rhan fwyaf o bobl. Pan fydd y cordiau kcyntaf ar yr organ yn dechrau chwarae, a’r geiriau “O deuwch, ffyddloniaid” yn atseinio drwy’r adeilad rydech chi’n gwybod fod Gŵyl y Geni wedi cyrraedd. Mae canu yn dylanwadu arnom mewn ffordd arbennig, gan gyffwrdd yr emosiwn mewn ffordd ddwfn iawn. Ond beth sy’n gwneud carol dda?
Yn sicr mae’r dôn yn rhan o’r darlun. Mae sain dangnefeddus “Tawel nos, Sanctaidd yw’r nos” yn tawelu ysbryd dyn. Neu mae gorfoledd heintus “Clywch lu’r nef yn seinio’n un” yn help i godi’n hysbryd. Ond nid y dôn yn unig sy’n cyfrif. Mae yna rhywbeth llawer mwy sylfaenol na’r gerddoriaeth. Oni bai am hynny waeth i ni ganu “White Christmas” neu “I wish it could be Christmas every day!”
Heddiw mae’n bosib iawn byddwch chi’n canu carol mewn rhyw wasanaeth. Torrwch drwy’r sentimantaliaeth, a meddyliwch am yr hyn fyddwch yn ei ganu. Mae yna garolau sy’n ddim ond sentiment – yn sôn am eira ac oerfel y nos ac yn y blaen. Ond ewch at y carolau sy’n eich cyfeirio at yr hanes gwreiddiol, ac at y rhai sy’n dathlu arwyddocád y geni ym Methlehem. Gall y gerddoriaeth fod fel y cadachau sydd wedi eu rhwymo am y baban – doedd neb yn sylwi ar y cadachau – y baban oedd yn cael y sylw. Gadewch i’r gerddoriaeth eich cynorthwyo i lawenhau yn y gwirioneddau mawr sy’n cael eu dathlu gennym, ac yn y Gair tragwyddol a ddaeth yn gnawd er ein mwyn.
“I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd.” “Draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd.” ” Ganwyd ef – O! Ryfedd drefn – fel y genid ni drachefn!” “Duw yn ddyn, fy enaid gwêl Iesu ein Emaniwel!”
Does dim prinder deunydd i’n helpu – yn hen a newydd.
Dyma un o’r carolau newydd byddwn yn eu canu yma yng Nghapel y Ffynnon, ar yr hen dôn – Poland: