Tymor yr Adfent 2014, 9

Published by Dafydd Job on

imageDedwyddach yw rhoi na derbyn (Actau 20:35)

Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser o haelioni mawr. Daeth rhoi anrhegion yn gymaint rhan o’r ŵyl o leiaf yn y byd gorllewinol. Bydd plant yn llawenhau wrth agor eu trysorau ar fore dydd Nadolig. Ond bydd rhai eraill yn dangos eu haelioni trwy roi eu hamser i ofalu am y digartref neu’r unig. Er bod modd dadlau fod ein cymdeithas wedi mynd yn hunanol iawn, eto gallwn ddarganfod ysbryd hael mewn sawl lle.

Wn i ddim os gwnes i sylweddoli gwirionedd yr egwyddor hon fod rhoi yn well na derbyn,  nes i mi ddod yn dad, a gweld llawenydd yn wyneb fy mhlant wrth iddyn nhw edrych drwy eu hosan Nadolig. Ond fe ddylwn fod wedi sylweddoli mai dyma egwyddor fawr y Duwdod yn yr efengyl. Does dim yn cymharu â haelioni Duw – yn wir mae’r gair Saesneg “extravagance” yn ymddangos yn addas iawn wrth feddwl am ei roddi Ef.

Cymrwch ei eiriau wrth Abram pan alwodd ef i adael ei wlad ei hun a mynd i wlad yr addewid: Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith. Bendithiaf y rhai sy’n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy’n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear.(‭Genesis‬ ‭12‬:‭2-3‬ BCN) Roedd Duw yn addo daioni mawr i Abram ei hun – deuai ei dylwyth yn genedl fawr. Ond doedd hynny ddim yn ddigon. Bwriad Duw oedd y byddai bendith yn ymledu i bob cenedl, llwyth ac iaith – i holl dylwythau’r ddaear. Nid rhyw Dduw crintachlyd mo hwn sydd am gadw ei roddion da i ryw ychydig o bobl.

Yna meddyliwch am y fendith a roddir i ni – mae’r Beibl yn sôn amdani mewn llu o wahanol ffyrdd – bywyd tragwyddol; nefoedd; teyrnas dragwyddol; gogoniant; cartref; a dyna ddim ond enwi ychydig o’r ffyrdd mae Duw yn darlunio ei fendithion i ni.

Ond yr hyn sy’n dangos haelioni Duw i’r eithaf yw’r pris a dalodd er mwyn i ni gael derbyn ei ddaioni. Fe roddodd ei Hun i ni, yn Iesu Grist: Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau’n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef. (‭2 Corinthiaid‬ ‭8‬:‭9‬ BCN)

Fel y dywedodd Williams Pantycelyn: Mae’r Iesu’n fwy na’i roddion, Mae Ef yn fwy na’i ras. Dyma pam mai’r rhodd fwyaf y gallwn ni ei roi i unrhyw un y Nadolig hwn yw dweud wrthyn nhw am y baban a anwyd ym Methlehem, a’u gwahodd i dderbyn Crist fel eu Gwaredwr.

Yn llyfr Datguddiad cawn olygfa o dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo. (‭Datguddiad‬ ‭7‬:‭9‬ BCN) Ond er eu bod yn dyrfa na ellir eu rhifo tydi eu gwerth hwu i gyd ddim cymaint â’r pris a dalwyd amdanynt. Nid edrych am elw oedd Duw pan roddodd ei Fab i ni. Edrych am y llawenydd o roi, a gwybod ein bod ni yn gallu gorfoleddu yn ei gariad a’i haelioni tragwyddol.

Yn wir, yr anrheg gorau fedrwn ni ei roi i Dduw y Nadolig hwn yw dweud wrth eraill amdano, fel eu bod hwythau yn cael cyfle i dderbyn ei rodd anfeidrol.

Dos, dywed ar y mynydd,
Ledled y byd ac ymhob man,
Dos, dywed ar y mynydd
Am eni Iesu Grist.