Tymor yr Adfent 2014, 11
“Ac ar y ddaear tangnefedd” (Luc 2:14)
Gan mlynedd i eleni dechreuodd rhyfel yn Ewrop. Cyfeiria haneswyr ato fel y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar y pryd roedd pobl yn sôn amdano fel y Rhyfel Mawr. Ffordd y gwleidyddion ar y pryd oedd sôn amdano fel y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel.
Bu gweld y pabi ceramig wrth Dŵr Llundain eleni yn brofiad digon dwys, o gofio fod pob un pabi yn cynrhychioli rhywun a fu farw yn ystod y cythrwfl hwnnw. Rhan o’r hyn wnaeth y profiad mor ddirdynnol oedd gwybod mai methiant fu’r ymgais i roi diwedd ar bob rhyfel. Bu’r ugeinfed ganrif yn llawn gwrthdaro – mwy nag unrhyw ganrif o’i blaen, ac mae’r ganrif bresennol yn dilyn yr un patrwm. Rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel? Choelia i byth!
Ond os cyhuddwn arweinwyr y gwledydd o fethu yn eu tasg, beth am y baban a anwyd ym Methlehem? Rydym yn ei alw yn Dywysog Tangnefedd, ac ar ddydd ei eni canodd yr angylion uwch bryniau Jiwda: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:14 BCN) Ble mae tangnefedd ar y ddaear heddiw? Wedi dwy fil o flynyddoedd oni allwn ddwyn yr un cyhuddiad yn erbyn Iesu Grist?
Mae unrhyw un sydd wedi edrych o ddifrif ar fywyd a dysgeidiaeth y Gwaredwr yn gorfod cyfaddef na addawodd y Gwaredwr y gwelem ddiwedd ar ryfeloedd yn hanes y byd hwn. Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw’r diwedd eto. (Mathew 24:6 BCN) Beth bynnag yw ein barn ar gyfrifoldeb llywodraethau’r byd i sicrhau heddwch trwy rym, a’r syniad o ryfel cyfiawn, gwnaeth Crist yn ddigon clir nad dyna oedd y modd yr oedd yn mynd i weithredu. “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o’r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i’r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.” (Ioan 18:36 BCN)
Bwriad Iesu oedd mynd at wraidd yr anghydfod yn y byd – y rhyfel rhwng dyn â Duw, a thrwy ddwyn heddwch i’r berthynas honno, yna byddai ei blant yn profi tangnefedd yn eu calonnau, ac yn gyfrwng hau tangnefedd yn y byd. Dyna pam, yn ei ddisgrifiad o gymeriad ei ddilynwyr y dywedodd Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw. (Mathew 5:9 BCN)
Wrth i chi fyfyrio heddiw ar eni Tywysgog Tangnefedd, holwch eich hun sut mae pethau rhyngoch chi â’r Tad nefol. Gwnewch yn siwr eich bod wedi profi y cymod ddaw trwy aberth Crist drosoch ar y groes. Ac yna ewch i’r byd i fod yn ddylanwad er tangnefedd yn eich lle gwaith, yn eich teulu, yn eich cymdogaeth.
Ac ie, fe ddaw dydd pryd y bydd Tywysog Tangnefedd yn rhoi diwedd ar bob rhyfela – ceir nef a daear newydd a bydd gwir heddwch yn parhau i dragwyddoldeb, gyda phawb yn plygu o flaen y Brenin Mawr.
Tywysog Tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
Ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
Dan goron bydd diben ein Duw.
Yn frodyr i’n gilydd, drigolion yngwledydd,
Cawn rodio yn hafddydd y nef;
Ein disgwyl yn Salem, i ganu yr anthem
Ddechreuwyd ym Methle, mae Ef.
Rhown glod i’r Mab bychan ar liniau Mair wiwlan –
Daeth Duwdod mewn Baban i’n byd;
Ei ras, O! Derbyniwn; ei haeddiant cyhoeddwn,
A throsto Ef gweithiwn i gyd.