Tymor yr Adfent 2014, 13
“Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â’i bobl a’u prynu i ryddid; “(Luc 1:68 BCN)
Roeddwn yn sôn ddoe am Sachareias, a Duw yn dweud fod ei weddi wedi ei gwrando a’i hateb. Mae’n debyg mai’r peth cyntaf fyddai am ei wneud ar ôl gadael y deml fyddai dweud wrth rhywun am ymweliad yr angel. Ond nid oedd yn gallu. Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; ac wele, byddi’n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.” (Luc 1:19-20 BCN) Roedd ei anghrediniaeth wedi cau ei enau.
Byddai ei feddyliau yn chwyrlïo wrth iddo ddychwelyd adref – Rydw i’n mynd i fod yn dad! Tydi Duw ddim wedi rhoi proffwyd i ni ers cannoedd o flynyddoedd, a rydw i yn mynd i fod yn dad i broffwyd! Sut fedra i egluro hyn i Elisabeth? Byddai ei galon yn llawn, ond ei enau yn fud.
Ymhen ychydig dros naw mis fe gyflawnwyd gair yr angel, ac fe anwyd Ioan Fedyddiwr. Wrth i’r hen offeiriad gadarnhau enw ei fab rhyddhawyd ei enau – a beth yw testun ei eiriau? Nid y mab a gafodd ond y Mab mwy oedd ar y ffordd! Pan anwyd fy mhlant i, y sgwrs oedd amdanyn nhw – beth oedd eu pwysau; beth oedd lliw eu gwallt; tebyg i bwy oedden nhw. Ond yma mae’r sylw wedi ei droi oddi wrth y plentyn bychan at y Duw sy’n ymyrryd i waredu ei bobl – A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi’n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau. (Luc 1:76 BCN)
Roedd wedi cael misoedd i fyfyrio ar yr hyn oedd yn digwydd, ac wedi dwyn i gof yr holl addewidion gafwyd oedd yn edrych ymlaen at y Meseia – yn enwedig efallai geiriau olaf yr Hen Destament : “Wele fi’n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy’r ARGLWYDD. Ac fe dry galonnau’r rhieni at y plant a chalonnau’r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo’r ddaear â difodiant.” (Malachi 4:5-6 BCN) Roedd wedi sylweddoli mai paratoi’r ffordd fyddai’r plentyn hwn at yr Arglwydd oedd yn dod.
Yng ngeiriau Mr. Afanc yn hanes y Llew a’r Wrach – Mae Aslan yn symud! Wedi’r holl ganrifoedd o ddisgwyl, roedd Duw yn symud, a rhaid oedd llawenhau!
Rydym ni yn edrych yn ôl dros y canrifoedd ac yn gweld yn gliriach sut waredigaeth anfonwyd. Peidiwn a gadael i anghrediniaeth ein gwneud yn fud. Canwn ein carolau gydag afiaith ac argyhoeddiad, a gwahoddwn ein cymdogion i ddod i addoli’r Un a anwyd yn Waredwr y byd – yr Un a anwyd i fod yn Waredwr i ni.
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn:
heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy’n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
unwch â’r angylaidd glod,
bloeddiwch oll â llawen drem,
ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn.