Tymor yr Adfent 2014, 20

Published by Dafydd Job on

ist2_2246369-joseph-and-mary-travel-to-bethlehem1Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio’n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel. (‭Mathew‬ ‭1‬:‭18-19‬ BCN)

Mae’n nhw’n deud fod rhywun wedi clywed dwy hen wraig yn trafod hanes y Nadolig yn ddiweddar: “Wyryf yn cael plentyn – galla i dderbyn hynny. Ond tri gŵr doeth? Pwy sy’n mynd i gredu hynny??

Wn i ddim os gredwch chi’r stori uchod, ond mae rhai’n mynnu fod hanes y geni, fel y cewch chi o yn y Beibl yn anghredadwy. Beth ydi’r sôn am angylion, a seren, a rhai’n teithio o’r Dwyrain i weld Brenin wedi ei eni mewn stabl? Onid rhyw fyth cyntefig ydi hwn i geisio dweud fod Iesu yn rhywun arbennig?

Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai un o’r pethau sy’n gwneud yr hanes yn gredadwy ydi ymateb Joseff i’r sefyllfa. Mae’r efengylau yn gredadwy oherwydd eu bod nhw’n dangos nodweddion llygad-dystion. Cymrwch chi hanes Joseff fan hyn. Roedd yn ŵr ifanc, yn cynllunio ei fywyd, a rhan fawr o’r cynllun oedd Mair, y ferch ifanc yr oedd wedi dyweddïo â hi.

Roedd dyweddïo yn beth mawr iawn yn yng ngymdeithas yr Iddewon – bron ar yr un lefel â phriodas. Ond yna daeth y newydd oedd yn chwalu ei freuddwydion. Gallwn ddychmygu e i wewyr. Mae pob math o bethau yn gallu gwneud i ni golli cwsg – cynnwrf (plant y noson cyn Nadolig, neu ferch ifanc y noson cyn ei phriodas), neu ofid(pryderon bywyd). Ond rwy’n amau fod y brad a deimlai wedi peri i Joseff dreulio oriau yn effro, yn ystyried beth ddylai ei wneud.

Roedd yn ŵr cyfiawn, yn ofni Duw a pharchu ei ddeddfau. Roedd yn credu mai peth anrhydeddus oedd priodas, ond sut fedrai briodi Mair, â gwely’r briodas wedi ei halogi cyn dechrau hyd yn oed? Ond nid cyfiawnder caled oedd ei gyfiawnder ef. Doedd ddim am ei chywilyddio yn gyhoeddus, felly daeth i’r penderfyniad y byddai yn ceisio dwyn y cyfan i ben yn ddistaw. Doedd hynny ddim yn hawdd mewn cymdeithas glos fel Nasareth. Ond doedd dim modd iddo gario mlaen efo’r berthynas, gan fod yn amlwg fod Mair yn disgwyl plentyn, ac nid ei blentyn o.

Dyna chi ymateb y gallem ni ei ddisgwyl. Mae yna ddilysrwydd i’r hanes. Doedd Joseff, ddim mwy na ninnau, yn credu fod trefn natur yn gallu cael ei thorri, beth bynnag oedd Mair yn ei honni.

Ond yna daeth newid. Os nad oedd yn barod i gymryd gair ei ddyweddi fod angel wedi ymweld â hi, ni allai wadu yr hyn ddigwyddodd iddo ef ei hun. Daeth angel yr Arglwydd ato ef mewn breuddwyd, a gosod y cwbl yng nghyd-destun y cyfan roedd Joseff ei hun yn ei gredu. Ni allai fod wedi dychmygu hyn. Ni fu brad yng nghalon Mair, na thrais. Roedd Duw ei hun yn dweud wrtho mai’r plentyn hwn oedd gobaith ei bobl a’r byd: Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.” (‭Mathew‬ ‭1‬:‭21‬ BCN)

Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth gŵr ifanc arall i’r un casgliad. Roedd y pysgotwr hwn o Galilea wedi dilyn Mab y Saer ers ymron i dair blynedd; wedi ei weld yn iacháu cleifion, yn rhyddhau rhai oedd yn gaeth i ysbrydion drwg, ac yn dysgu’r anwybodus am Deyrnas Dduw. Pan ofynwyd iddo – pwy wyt ti’n ei ddweud ydw i? – daeth ei ateb yn syth, heb feddwl “Mab Duw”, a beth oedd ymateb Iesu? Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd. (‭Mathew‬ ‭16‬:‭17‬ BCN)

Nid trwy angel y tro hwn y gwelodd Simon Pedr pwy oedd plentyn Bethlehem, ond Duw ei hun yn ei ddysgu.

Mae’r un egwyddor yn dal o hyd. Ydi pobl yn ei chael hi’n anodd i gredu yn y cenhedlu gwyrthiol? Ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd i gredu mai hwn yw Iesu, Meseia Duw sydd yn gwaredu pobl oddi wrth eu pechodau? Dyma efallai sy’n naturiol – nes i Dduw yr Ysbryd Glân eu hargyhoeddi. Ac unwaith mae hynny wedi digwydd, tydi ymweliadau’r angylion, goleuni’r seren, a geni plentyn i forwyn ddim yn broblem o unrhyw fath.

Beth yw ein hymateb ni heddiw i’r hanes hwn. ydym fel Joseff cyn ei freuddwyd, neu a glywsom rhyw sibrwd yn ein calonnau – Mae’n wir! Mae Duw wedi dod atom!

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Daeth baban bach yn Geidwad byd;
Doethion a ddaeth i’w weled Ef,
A chanodd angylion uwch ei grud;
Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Daeth baban bach yn Geidwad byd.

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Nid oedd un lle i Geidwad hyd;
Llety’r anifail gafodd Ef
Am nad oedd i’r baban lety clud;
Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Nid oedd un lle i Geidwad byd.

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Fe anwyd Crist yn Geidwad byd;
Canwn garolau iddo Ef
A molwn ei gariad mawr o hyd;
Draw yn nhawelwch Bethlem dref
Fe anwyd Crist yn Geidwad byd.