Tymor yr Adfent 2014, 21
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Rhan annatod o’r Nadolig i’r rhan fwyaf ohonom yw canu. Mae’n draddodiad anrhydeddus, yn mynd yn ôl i hanes y bugeiliaid, yn clywed côr yn canu uwch y bryniau – côr o angylion! Mi fyddwn ninnau wedyn wrth ein bodd yn mynd i glywed perfformiad o oratorio Handel – Y Meseia. Mae yna rhywbeth gogoneddus am glywed geiriau’r Ysgrythur wedi eu rhoi ar gân fel hyn. Neu mae ymuno mewn gwasanaeth carolau, a chlywed nodau cyntaf y cyfeilydd yn arwain i hen garol gyfarwydd, megis O! Deuwch ffyddloniaid, yn ein symud i dir gwahanol – atgofion o Nadolig pan yn blentyn efallai.
Mae’n ymddangos i mi fod yna ddau berygl o fod yn gwneud yn fawr o’r canu a wnawn ni. Y perygl cyntaf yw fod y diwn yn mynd yn fwy pwysig na’r geiriau. Mae cerddoriaeth yn gallu symud ein hysbryd. Mae’r diafol yn gwybod hyn cystal â neb, a gallwn feddwl, gan bod y gerddorieth wedi ein symud fod hynny yn fawl. Ond nid yr un peth yw canu “Clywch lu’r nef yn seinio’n un” â chanu “I’m dreaming of a white Christmas”!
Yr ail berygl yw fod y geiriau yn mynd mor gyfarwydd fel ein bod yn methu a rhoi sylw i’r ystyr. Fe fydd y gerddoriaeth yn dechrau, ac fe fyddwn yn mynd ar automatic pilot ac yn canu yn ddi-feddwl.
Mae gwirioneddau mawr yn y carolau, ac fe ddywedodd Iesu mai’r gwirionedd fyddai yn ein rhyddhau ni (Ioan 8:32). Felly heddiw, beth am fynd at eich hoff garol, a chymryd amser i fynd dros y geiriau eto, a’u troi yn fawl. A phan fyddwch yn gwrando, neu yn ymuno i ganu mewn gwasanaeth heddiw, codwch eich calon, yn ogystal â’ch llais, at Dduw mewn addoliad.
Dyma garol a ysgrifennais rhyw dair blynedd yn ôl. Gellir ei chanu ar y dôn Epiphany (Caneuon Ffydd 383)
Ganwyd yn faban a’i roi yn y preseb;
Ganwyd yn Frenin y cread i gyd;
Ganwyd, a llety’r anifail yn gysgod;
Ganwyd yn Geidwad, Gwaredwr y byd.
Ganwyd yn ddinod a neb yn ei ’nabod;
Engyl y nef â’i haddolent yn un;
Seren oleuai y ffordd at ei breseb –
Oedai i weld ddyfod Duwdod mewn dyn.
Ganwyd yn nerth a diddanwch i Israel,
Golau a gobaith i ddynion pob oes;
Aur, thus a myrr oedd anrhegion y doethion;
Anrheg y byd oedd, nid coron, ond croes.
Ef ydyw’r Bugail sy’n ceisio’r golledig;
Ef yw ein Brenin yn gorwedd mewn crud;
Gorsedd ein calon sy’n disgwyl amdano –
Rhown iddo goron ein bywyd i gyd.
Dafydd M Job