Tymor yr Adfent 2014, 23
Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a’i gusanu. (Luc 15:20 BCN)
Roedd dydd Sadwrn diwethaf yn bwysig yn ein tŷ ni. Wedi rhai misoedd i ffwrdd roedd Heledd yn dod adref ar gyfer y Nadolig. Mae’n byw a gweithio yn Slovakia ar hyn o bryd, felly roedd yna edrych ymlaen at ei chael yma am bythefnos o wyliau. Dyna un o’r rhesymau bydd llawer yn edrych ymlaen at y dathlu. Er bod rhai yn mynd i ffwrdd – yn dianc i le cynhesach, neu i le lle na fydd yn rhaid iddyn nhw ofalu am y coginio a’r diddanu, bydd llawer mwy yn cymryd y cyfle i deithio adref at eu teulu. Mae’r lonydd yn llenwi, a’r trenau yn brysur wrth i bobl frysio i fod gyda’i gilydd ar yr ŵyl.
Wrth gwrs nid pawb sydd gyda chartref i fynd iddo na theulu i fynd atyn nhw. I eraill mae eu profiad o gartref yn un poenus. Ond mae yna rywbeth ynom i gyd sy’n hiraethu am fynd i’r fan honno lle mae gennym le wedi ei baratoi, a chyfeillion yn ein croesawu.
Mae’r Nadolig yn llawn hanesion am bobl yn gadael. Gadawodd Joseff a Mair Nasareth, er mwyn teithio i Fethlehem. Gadawodd y bugeiliaid eu praidd er mwyn dod i weld y baban. Gadawodd y sêr-ddewiniaid eu cartref er mwyn dod i addoli Brenin yr Iddewon.
Ond yr un gymerodd y daith fwyaf y noson honno oedd y baban, a adawodd orsedd y Nef, i ddod i orwedd mewn preseb. Daeth y Gair tragwyddol yn gnawd. Ymwacáodd ei hun meddai Paul wrthym (yn Philipiaid 2), gan adael ei gartref, a’i ogoniant, a’i hawl i dderbyn mawl ac addoliad pob creadur.
Pam? Beth oedd diben y dod? Er mwyn ein galw ni adref. Llyfr sy’n gwahodd yw’r Beibl, am fod Duw yn Dduw sy’n gwahodd. Meddyliwch am y gwahoddiadau di-rif sydd i’w canfod yng ngeiriau’r Gwaredwr ei hun: Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. (Mathew 11:28 BCN); Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi’n uchel: “Pwy bynnag sy’n sychedig, deued ataf fi ac yfed. (Ioan 7:37 BCN); Meddyliwch am ddamhegion megis dameg y Mab Afradlon, neu’r ddafad golledig. Trwy ei weinidogaeth roedd y Gwaredwr yn ein galw ato’i hun.
Fe ddywedodd un plentyn mae’n debyg ” Home is the place, when you get there, they’ve got to let you in.” A dyna ryfeddod y Nadolig. Mae Duw yn gweiddi dros y canrifoedd – “Dewch adref”. Does dim rhaid dod ag anrhegion – gallwch fod mor dlawd â’r bugeiliaid hynny deithiodd i lawr y lôn i weld y baban. Does dim ots os ydych wedi crwydro’n bell oddi wrth Dduw. Daeth y Doethion o bell, ond fe gawsant groeso wrth ddod i addoli’r un bach.
Un o ddarluniau mwyaf trawiadol y Beibl am ddychwelyd yw hanes Gomer, gwraig Hosea. Roedd hon wedi dewis gadael ei gŵr a gwerthu ei hun i ddynion eraill, nes ei bod yn y diwedd yn gaeth – yn un o’r sex-slaves y clywn amdanyn nhw weithiau ar y newyddion. Ond aeth Hosea, a’i phrynu yn ôl iddo’i hun, gan ei dwyn yn ôl i’w gartref. Dyma wnaeth Crist. Â ninnau wedi gwerthu ein hunain yn weision i bechod, fe ddaeth i dalu pris ein rhyddid ar y groes a’n gwahodd i ddod adref.
“Gadawodd orsedd nef ei hun
Er codi dyn yn dyner.”
Ac wrth i ni ddychwelyd, â’n pen yn isel, fe ffeindiwn ni fod i ni groeso mawr, fel cafodd y Mab Afradlon: Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a’i gusanu. (Luc 15:20 BCN)
Beth bynnag ydi’ch darlun chi o gartref, dewch at Iesu, ac fe ffeindiwch chi mai nid lle ydi cartref, ond Person – ac ynddo fo fe gewch orffwys, bwyd i’ch enaid a llawenydd i’ch digoni i dragwyddoldeb.
Diosgodd Crist ei goron
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion o’i wir fodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddioddef dirmyg llidiog,
O’i wir fodd,o’i wir fodd,
Er codi pen yr euog
O’i wir fodd.
Am hyn, bechadur, brysia,
Fel yr wyt, fel yr wyt,
Ymofyn am y noddfa, fel yr wyt;
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
Fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny tyrd yn brydlon,
Fel yr wyt.