Nadolig 2014 – Y Seren

Published by Dafydd Job on

images (10)A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭10‬ BCN)

Mae llawer o ddyfalu wedi bod am seren Bethlehem. Beth yn union welod y Doethion? Ai comed oedd, megis comed Halley? Neu tybed ai dwy blaned â’u golau yn cyd-daro i ymddangos fel seren arbennig o ddisglair. Bu’r astronomyddion yn edrych ar batrymau’r sêr a cheisio dyfalu pryd yn union y bu hyn. (Mae cytundeb fod y rhai fynnodd yn y 6ed ganrif ar ddyddiad geni Crist yn anghywir.)

Rwyf fi’n tybio mai ofer yw’r dyfalu hwn – mae yna rywbeth gwell y gallwn ei wneud gyda hanes y seren. Beth bynnag a welodd y sêr ddewiniaid o’u gwylfa yn y dwyrain, y canlyniad oedd eu harwain at y baban. Ac wedi hynny, does dim sôn amdani. Doedd ganddyn nhw ddim diddordeb ynddi bellach. Diflanodd i bellteroedd y gofod oherwydd roedd wedi cyflawni ei gwaith. Y peth pwysig bellach oedd y plentyn a anwyd i fod yn Frenin. Arno Ef roedd y sylw i fod yn awr.

Rydym ninnau wedi mwynhau’r dathlu. Mae’r twrci yn sgerbwd, yr anrhegion wedi eu hagor, a chynnwrf bore Nadolig wedi lleihau. Gallwn bellach efallai roi llai o sylw i’r pethau hyn. Nid gwerth yr holl bethau eraill hyn yw’r pleser a gawn ohonyn nhw. Mae eu gwir werth i’w ganfod yn eu gallu i’n cyfeirio at y baban a anwyd i fod yn Waredwr y byd. Rhaid i ni beidio gadael iddyn nhw gymryd ein bryd, neu mae perygl iddyn nhw droi yn eilunod. Fel y dywedodd ein Harglwydd: “Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. (‭Mathew‬ ‭6‬:‭19-21‬ BCN)

Gallwn hefyd ddilyn esiampl y seren. Mae ein gwerth ninnau i’w ganfod yn ein parodrwydd i gyfeirio pobl at Grist, ac yna diflannu o’r golwg. Meddyliwch am Ioan Fedyddiwr yn gweld ei ddilynwyr yn ei adael er mwyn gwrando ar fab y saer: Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder. Y mae’n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.” (‭Ioan‬ ‭3‬:‭29-30‬ BCN) Gallwn ninnau fod fel seren Bethlehem, yn arwain teulu, cymdogion a chyfeillion at y Ceidwad, ac yna llawenhau pan fyddan nhw’n plygu i’w addoli Ef.

Carol Seren Bethlehem

Pan gefaist ti dy danio
Wyddet ti, wyddet ti?
A’th osod ar dy gylchdro,
Wyddet ti
Y rheswm am d’oleuo
A’th ddanfon fyth i grwydro
Drwy’r gofod dro ac eildro,
Wyddet ti, wyddet ti?
I wybren dyn i deithio,
Wyddet ti?

A deithiaist ar dy union
Ato Ef, Ato Ef,
Drwy’r eangderau meithion
Ato Ef?
Draw heibio i Orïon,
Pleiades, Mawrth a Neifion
I gwmni yr angylion
Ato Ef, Ato Ef,
Uwch bryniau beichiog Seion
Ato Ef?

A synnaist ti o’i ganfod
Yn y crud, yn y crud?
Dy Grëwr yno’n ddinod
Yn y crud?
Bugeiliaid llwm yn trafod,
A’r doethion, mewn mudandod,
A Duw yn ceisio cysgod
Yn y crud, yn y crud,
A’r byd heb ei adnabod
Yn y crud.

Ar ôl goleuo’r beudy
Rhaid oedd mynd, rhaid oedd mynd,
I bellter oer y fagddu,
Rhaid oedd mynd;
Bodlonaist ar lewyrchu
Am ennyd, a diflannu,
I’w olau Ef dywynnu,
Rhaid oedd mynd, rhaid oedd mynd –
 Herod yn dadebru,
Rhaid oedd mynd.

DMJ