Nadolig 2014, 3
A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. (Ioan 1:14 BCN)
Y peth cyntaf y gellir ei ddweud am eiriau Duw yw eu bod yn rhai gweithredol. Un o’r pethau cyntaf rydym yn ei ddarllen yn y Beibl yw: dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. (Genesis 1:3 BCN). Sylwch, tydi o ddim yn dweud: Dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” Ac aeth Duw ati i greu goleuni. Rydym ni yn gallu dweud “Bydded goleuni” ond rhaid i ni wedyn godi a throi’r switch arnodd. Ond mae geiriau Duw yn wahanol. Mae Duw yn dweud ac mae rhywbeth yn digwydd.
Dywedodd Duw wrth Abram, “ni’th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd.” (Genesis 17:5 BCN), ac yn sydyn newidiwyd bioleg yr hen ŵr hwn a’i wraig, a’u gwneud yn ffrwythlon i fedru cael plant.
Mae hyn yn wahanol i’n geiriau ni. Fel y mae’r glaw a’r eira yn disgyn o’r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau’r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i’w hau a bara i’w fwyta, felly y mae fy ngair sy’n dod o’m genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges. (Eseia 55:10-11 BCN)
Ond mae Ioan yn mynd â ni gam ymhellach. Mae’r Duw hwn sy’n gweithredu trwy lefaru, yn dod i’n plith ni mewn ffordd wahanol. Mae’n llefaru ei Hun i mewn i stori’r ddynoliaeth trwy ddod yn gnawd, a thabernaclu yn ein plith. Fel ag yr oedd y tabernacl ynghanol gwersyll yr Israeliaid yn yr anialwch, a’i bresenoldeb yn eu hachub, felly daeth Duw yn ddyn a gwneud ei gartref ynghanol ein byd a’n bywyd ni, i ddwyn iachawdwriaeth i ni.
Heddiw, wrth i ni droi at y Beibl, ac wrth i ni eistedd yn gwrando ar bregeth, mae’r un Duw yn llefaru, a’r Gair yn ein newid ni. Mae’n dweud “Bydded goleuni”, a bydd ein calonnau yn gael eu goleuo. Ynghanol gwyntoedd a stormydd ein bywyd gall godi a dweud “Bydd dawel, bydd lonydd.” Mae’n dweud wrth yr un sydd mewn bedd ysbrydol “Tyrd allan”, a daw bywyd newydd. Mae Duw ar waith.
“Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.” (Marc 4:23 BCN)