Nadolig 2014, 6
Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.” (Ioan 8:58 BCN)
Rydym wedi cyrraedd diwrnod olaf y flwyddyn. Dyma ddydd pryd y bydd llawer yn edrych yn ôl ac yn cofio’r deuddeg mis diwethaf. Tybed beth fydd yn dod i’r cof? Ai digwyddiadau llawen neu anodd? Ai achlysuron personol, ynteu rhai mwy eang. Digwyddodd cymaint mewn un flwyddyn.
I rai, uchafbwynt y flwyddyn oedd Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow. I eraill, y cyfle i gofio yn ôl can mlynedd i’r rhyfel byd cyntaf yn cychwyn, a’r miloedd o fywydau a gollwyd. Bydd eraill yn meddwl am ddigwyddiadau mwy personol. Priodi, geni plentyn, colli rhywun annwyl, gadael cartref am y coleg. Mae pob un ohonom yn wahanol, a’r atgofion mor amrywiol.
Meddyliwch am yr holl bethau gallem sôn amdanyn nhw – Rwsia yn cymryd meddiant o Crimea (mis Mawrth); Boko Haram yn herwgipio merched yng ngogledd Nigeria (Mis Ebrill); Islamic State yn cyhoeddi eu bod wedi creu Caliphate newydd (Mis Mehefin); Awyren Malaysia Airlines yn cael ei saethu i lawr uwchben Iwcraen (Mis Gorffennaf); Crisis Palesteina; Crisis Ebola; Refferendwm yr Alban; Rolf Harris yn cael ei garcharu am gamdrin rhywiol. Mae’r penawdau yn newid o ddydd i ddydd.
Dyna pam, ar ddiwrnod olaf y flwyddyn welodd gymaint o newid yn ein byd, mae’n dda i ni gymryd perspectif gwahanol, ac atgoffa’n hunain o’r hyn nad yw’n newid.
Mae’n ymddangos nad yw natur dyn ddim yn newid – efallai fod penawdau’r newyddion yn wahanol, ond yr un yw’r stori. Byd lle mae rhyfel a gwrthdaro rhwng pobl, boed ar lefel ryngwladol neu ar lefel bersonol yw hwn. Tydi problem dyn ddim yn newid felly – y broblem o ddiffyg cymod, nid yn unig rhwng dyn â’i gyd-ddyn, ond rhyngddo â’i Grëwr.
Ond y cysur yw fod yna Un nad yw yn newid.
Ymron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl roedd Iddewon yn byw mewn byd oedd wedi newid o ddyddiau eu cyndadau. Roedden nhw’n byw dan ormes ymherodraeth Rufain, a hwythau yn hiraethu am ddyddiau fel rhai’r Brenin Dafydd neu Solomon, pryd yr oedd Israel yn rym yn y byd; neu efallai dyddiau fel rhai Moses, pan oedd Duw yn gwneud pethau rhyfeddol fel rhoi manna o’r nef; neu fel dyddiau Abraham, pryd yr oedd Duw yn creu gwahaniaeth mawr rhwng ei bobl Ef â gweddill y byd.
Ond dyma nhw yn dod wyneb yn wyneb ag Un oedd yn mynnu mewn byd oedd yn newid, mai Ef oedd yr Un digyfnewid. “Cyn bod Abraham yr wyf fi.” Nid “yr oeddwn i”, ond “yr wyf fi”. Dyma Iesu, y baban a anwyd ym Methlehem yn cyhoeddi mai Ef yw’r YDWYF YR HWN YDWYF a ymddangosodd i Moses mewn berth yn llosgi heb ei difa (Exodus 4).
Mewn man arall mae’n disgrifio ei hun fel hyn: “Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r olaf, y dechrau a’r diwedd.” (Datguddiad 22:13 BCN) Mae awdur y llythyr at yr Hebreaid yn dweud: Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth. (Hebreaid 13:8 BCN)
Os felly mae yna nifer o bethau y gallwn afael ynddyn nhw wrth feddwl am wynebu blwyddyn newydd. Mae ei awdurdod yn parhau yn ddigyfnewid: Daeth Iesu atynt a llefaru wrthynt: “Rhoddwyd i mi,” meddai, “bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. (Mathew 28:18 BCN) Nid yn nwylo Putin neu Obama, Isis neu Al Qaeeda y mae dyfodol ein byd ond yn nwylo’r Bugail Da.
Mae ei addewidion yn parhau: Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; (Ioan 11:25 BCN) Nid Ebola gaiff y gair olaf, ond Awdur Bywyd.
Mae ei wahoddiad yn parhau: Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. (Mathew 11:28 BCN) Nid eich amgylchiadau yw eich meistr. Gallwch ymddiried y cyfan i Un cryfach na’r rheini i gyd.
Mae ei orchymyn yn parhau: Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân (Mathew 28:19 BCN) Mae gennym waith i’w wneud – dwyn tystiolaeth gerbron y byd o’r cariad tragwyddol.
Mae ei bresenoldeb yn parhau: “Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (Mathew 28:20 BCN)
Mewn byd sy’n newid, a lle rydym ninnau hefyd yn newid, (mae fy marf wedi britho dipyn yn ystod y flwyddyn!) sylwch ar y digyfnewid. Cymrwch bersbectif tymor hir, ac wynebwch y flwyddyn newydd mewn ffydd yn yr Un nad yw amser yn ei flino, na’r blynyddoedd yn peri iddo heneiddio.