Paratoi i bregethu

Published by Dafydd Job on

imageFel y mae’r glaw a’r eira yn disgyn o’r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau’r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i’w hau a bara i’w fwyta, felly y mae fy ngair sy’n dod o’m genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges. (‭Eseia‬ ‭55‬:‭10-11‬ BCN)

Mae heddiw yn un o’r Suliau prin hynny pryd nad wyf yn pregethu. Dyma gyfle i wrando, a gadael i Dduw siarad wrthyf drwy gyfrwng rhywun arall.

Mae pregethu yn un o weithredoedd mwyaf rhyfeddol y byd a’r bywyd hwn. Fe ddywedodd Calvin, y Diwygiwr Protestannaidd, ein bod wrth bregethu yn dod yn “enau Duw ei Hun”. Dyna rywbeth i godi arswyd ar unrhyw bregethwr. Dyma bump gair felly sydd yn help i mi wrth feddwl am bregethu – pump gair i helpu fy ngweddïo o flaen llaw. Mi greda i y gallen nhw fod yn eiriau i helpu gwrandawyr hefyd.

Cyfaddef – rydw i yn wan, ac yn methu. Os bydd effeithiolrwydd y pregethu yn dibynnu mewn unrhyw ffordd arna i, yna bydd yn fethiant llwyr. Nid fy mharatoi, fy llefaru, fy noethineb neu fy nirnadaeth, fy argyhoeddiad neu fy nhaerineb fydd yn sicrhau fod unrhyw beth yn digwydd. Bydd mynd yn fy nerth i yn cymylu’r gwir a chuddio Duw.

Ceisio – am hynny fy unig obaith yw fod Duw yn dod gyda mi. felly rhaid gofyn i’r Ysbryd Glân fy nghymryd yn Ei law er mwyn iddo fy nefnyddio. Rho i mi gariad dwfn at y gwirionedd, ac at y rhai fydd yn gwrando arnaf. Gad i mi fod yn agored i arweiniad yr Ysbryd fel y bydd y geiriau a lefaraf y rhai gorau ar gyfer y rhai sydd yn gwrando. Gad i mi beidio pregethu heb deimlo’r gwirionedd drosof fy hun. Rho i mi ddawn broffwydol fel bydd y geiriau yn cyrraedd calon a sefyllfa fy nghynulleidfa. Er nad wyf yn ymwybodol o’u sefyllfa arbennig nhw, rwyt Ti’n gwybod, ac fe elli di roi iddyn nhw yr union beth fydd yn gymorth iddyn nhw. Rho iddyn nhw glustiau i glywed, a chalon i wrando, ewyllys i blygu ac awydd i gymhwyso’r gwirionedd yn eu bywydau. Gad i mi gofio’r hyn rydw i wedi ei baratoi, ac eto bod yn agored i newid dan arweiniad yr Ysbryd. Yn enwedig helpa fi i gofio’r adnodau fydd yn fendith i’r bobl. Gad i fy mhersonoliaeth wisgo’r neges mewn realiti, ac eto gad i mi fynd o’r golwg er mwyn i Grist gynyddu.

Credu – Cynorthwya fi i gredu dy fod wedi gwrando fy ngweddi. Rydw i yma am dy fod ti wedi fy ngharu er cyn bod y byd, ac wedi fy ngalw yma i gyflwyno dy air di i’r bobl. Rwyt wedi addo na fydd dy air yn dychwel atat yn wag, ond yn cyflawni yr hyn rwyt ti wedi ei fwriadu. Felly fe fyddi Di yn bresennol a’th Ysbryd ar waith. Rwyt Ti o fy mhlaid yn y gorchwyl rwyf yn dymuno ei gyflawni. Mae dy wirionedd Di yn rhyddhau.

Cyhoeddi – Fel ag y camodd Pedr allan o’r cwch, felly rhaid i minnau fynd i’r pulpud a chyhoeddi. Rhaid gwneud hyn gyda hyder, fel yr apostolion gynt, yn gwybod i Ti fy ngalw i’r gwaith; yn dyner, yn gwybod fod angen y bobl o’m blaen yr un â’m hangen i; yn grediniol fod Duw ar waith (gweler pwynt 3); yn gwybod fod y neges heb ddibynnu arna i na fy ffydd, ond ar Dduw sydd wedi rhoi’r gwirionedd i ni.

Canmol – Diolch i Dduw am gael y fraint o fod yn rhan o’i and waith. Diolch iddo am ei wirionedd, am yr efengyl; am y Gwaredwr fu farw drosom er mwyn cael cyhoeddi’r newyddion da; am yr Ysbryd sy’n cymryd geiriau pregethwr ac yn newid calonnau a bywydau. Pa fendith bynnag ddaw o’r bregeth rwyf wedi ei thraddodi, rhaid diogelu nad wyf yn dwyn y clod i mi fy hunan. Duw sy’n rhoi ffrwyth, and rhaid ei ganmol am ei ras, ei ddaioni, a’i ogoniant.