Fforwm Ewrop 3
Dydd Llun
Dyma efallai y diwrnod prysuraf i mi eleni. Amser brecwast bum yn mentora gwraig sydd, ynghyd â’i gŵr wedi bod yn gofalu am eglwys yn yr Iseldiroedd. Gan ei bod hi yn 65 a’i phriod yn 74 roedd yn adeg iddynt ymddeol o ofal yr eglwys, ond roedd rheini yn anfodlon i adael iddynt fynd. Dyma enghraifft o rai heb lwyddo i gael yr eglwys i gymryd cyfrifoldeb dros eu gwaith. Mae egwyddor gweinidogaeth yr holl saint yn un Feiblaidd, ond hefyd yn un ymarferol dda hefyd. Pan fydd y cyfan yn dibynnu ar un neu ddau, yna os byddan nhw yn gorfod tynnu allan o’r sefyllfa mae perygl i’r eglwys fethu.
Cawsom ein harwain ymhellach i lyfr Nehemeia gan Ajith Fernando wedi amser brecwast. Roedd yn canolbwyntio ar ran cyntaf yr ail bennod gan holi pa fath o weithiwr oedd Nehemeia. Roedd ei neges yn heriol, ond yn obeithiol am ei fod yn ein hannog i weld fod yr Arglwydd yn gallu ein cynnal, a hyd yn oed ail-gynnau’r fflam yn ein hysbryd.
Yn y ffrwd apologgeteg cawsom ddwy sessiwn eto cyn cinio. Yn y cyntaf roeddem yn meddwl am sut mae hyfforddi cenhedlaeth newydd o rai i gymryd y gwaith ymlaen. Fe’n harweiniwyd gan Peter Saunders, sy’n feddyg ac yn gweithio gyda CMF (Christian Medical Fellowship) ym Mhrydain. Efallai fod ei gyflwyniad ychydig yn sylfaenol, ond roedd yna syniadau gwerthfawr ganddo. Yna wedi paned daeth yr Athro Glynn Harrison i’n herio i feddwl am ein hunaniaeth. Teitl ei sessiwn oedd “Understanding and Critiquing Modern Ideas of Self adn Identity”! Dyma sessiwn ymarferol iawn lle cawsom sawl cyfle i drafod, a buom yn meddwl yn ddwfn am y ffordd mae pobl yn eu diffinio eu hunain. Roeddem hefyd yn ceisio gweld sut mae syniadau pobl am eu hunaniaeth yn rhoi cyfle i ni geisio eu wynebu â’r efengyl. Dyma un o’r sesiynau gorau hyd yma.
Rwyf wedi cael gwahoddiad i ymuno â grŵp o wyth i feddwl am apologeteg dros y flwyddyn nesaf. Felly cawsom becyn cinio, a’r wyth ohonom yn cyfarfod i feddwl am y flwyddyn. Byddwn yn cael ein harwain gan yr athro Bruce Little o’r Unol Daleithiau. Buom gyda’n gilydd am 4 awr, yn dechrau trwy ddod i adnabod ein gilydd trwy rannu pwy ydym. Yna cawsom glywed beth fydd ein gwaith yn ystod y flwyddyn, a dechreusom ystyried sut mae deall dadleuon, a gwybod pryd mae dadl yn un dda, a phryd mae’n wan.
Roedd y pryd nos wedi ei drefnu yn ôl gwledydd, felly roeddwn i ar fwrdd gyda rhai eraill o Gymru. Mae rhai wedi dod o eglwys Highfields i wirfoddoli gyda’r 70 o Americanwyr sy’n gofalu amdanom yn ystod yr wythnos. Hefyd cawsom gwmni Lindsay Brown, Huw Williams sy’n gweithio yn Turin, ond sydd yn wreiddiol o Ogledd Cymru, a Phaul Webber sydd yn wreiddiol o’r cymoedd, ond bellach yn gweithio yn Southampton. Roedd yn ddiddorol gweld rhai o’r Saeson yn dymuno uno gyda bwrdd y Cymry! Tro ar fyd!
Min nos gofynwyd i wyth ohonom sy’n mentora yn y Fforwm gyfarfod gyda Greg Pritchard sy’n arwain y gwaith. Gofynwyd i ni ystyried os oes modd ymestyn y mentora drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn dipyn o her, ond fe fyddai’n golygu bod rhai sydd angen mwy o help nag y gellir ei roi mewn awr yn cael y cyfle i barhau i gael cymorth. Roedd yn ddiddorol gweld ymteb gwahanol rai i’r syniad. Cafwyd dwy awr o drafod a chynllunio, ac mae’n debyg y bydd fy nghyfrifoldeb felly yn ymestyn y tu hwnt i’r wythnos yma yng ngwlad Pŵyl.
Felly erbyn hanner awr wedi naw roeddwn yn hen barod i geisio newid meddwl, a chefaid hanner awr yng nghwmni Mike Chalmers, fuodd ym Mangor am rai blynyddoedd, a rhai o’i gyfeillion cyn noswylio.