Fforwm Ewrop 4
Wedi prysurdeb dydd Llun teimlais reidrwydd i geisio cael diwrnod ychydig yn fwy tawel dydd Mawrth. Mae’r boreuau yn olau yma, a chan fod Jerry sy’n rhannu ystafell gyda mi yn codi am 4.30 bob bore i fynd allan i redeg rwyf fel arfer i fyny erbyn 5, ac yn cael amser i ddarllen ac ysgrifennu. Yna am 7.00 bydd yn amser brecwast. Y tro hwn roeddwn yn mentora gweinidog o Kiev yn yr Iwcraen.
Er ein bod yn clywed pethau ofnadwy am y sefyllfa yn Nwyrain y wlad, mae’r brif-ddinas yn gymharol dawel. Roedd yn poeni ychydig am fod yr eglwys heb fod yn tyfu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae pobl Iwcraen wedi bod yn eithaf agored i’r efengyl, felly maen’t yn disgwyl gweld cynnydd cyson. Buom yn trafod pethau cwbl ymarferol fel sut mae dewis beth i’w bregethu, a sut mae mynd ati i helpu’r eglwys i fod yn gorff. Gorffennodd ein sgwrs gyda gwahoddiad i fynd allan i siarad yn y coleg Beiblaidd lle mae’n gweithio’n rhan amser, ac i helpu rhai o’i gyd-weinidogion.
Roedd Ajith Fernando yn parhau i’n harwain trwy lyfr Nehemeia, a’r bore hwn cawsom feddwl am sut i ddelio gyda gwrthwynebiad. Mae pawb sy’n gweithio’n ffyddlon yng ngwaith yr Arglwydd yn mynd i wynebu gwrthwynebwyr ar adegau, felly rhaid meddwl sut rai dylem fod i fedru sefyll a pharhau’r gwaith.
Heddiw roedd pedair ffrwd yn cyfarfod gyda’i gilydd – y gwyddonwyr, yr athronwyr, y diwinyddion a’r ffrwd apologeteg. Cawsom ddwy drafodaeth, yn eithaf cysylltiedig â’i gilydd. Yn gyntaf cafwyd cyflwyniad gan Peter J Williams, sef warden Tyndale House yng Nghaergrawnt, ac un o arbenigwyr blaenaf y byd ar lawysgrifau cynnar y Testament Newydd. Roedd wedi paratoi papur ar sut mae edrych ar unrhyw ddisgyblaeth academaidd o safbwynt Cristnogol. Roedd yn dweud fod gan y Beibl rywbeth i’w ddweud am y modd mae ysgolheictod yn cael ei weithredu. Yna roedd Peter S Williams, sef athronydd amlwg o Gristion, yn ymateb iddo. Wedi i’r ddau fod yn trafod â’i gilydd yn gyhoeddus, yna roedd modd i ninnau ddod i mewn i’r drafodaeth i god pwyntiau neu gwestiynau. (Gan fod dau Peter Williams, roeddem yn cael gwahaniaethu rhyngddynt trwy alw Peter J yn Peter bach, a Pheter S yn Peter mawr – mae unrhyw un sy’n adnabod y ddau yn gallu gweld pam!)
Yn yr ail drafodaeth roedd Rik Peels, athronydd o’r Iseldiroedd, yn holi os oes yna gyfyngiadau ar yr hyn all gwyddoniaeth ei ddarganfod. Mae mwy a mwy yn dilyn rhai o’r gwyddonwyr o Atheistiaid megis Richard Dawkins, i honni mai’r unig wybodaeth sicr y gallwn ei gael yw hwnnw sy’n cael ei ddarganfod trwy ddulliau gwyddonol. Dyfalu yw popeth arall. Ni all Cristnogion gytuno â hyn wrth gwrs, ond rhaid gallu dadlau yr achos. Yn ymateb i Rick Peels roedd Peter Imming, athro mewn cemeg, yn delio yn arbennig gyda chemeg cyffuriau yn yr Almaen. Cafwyd yr un ffurf i’r drafodaeth hon, a roedd yn hyfryd gweld trafod cymwys, cwrtais ond dwfn yn digwydd. Un peth oedd yn fy nharo wrth wrando oedd gostyngeiddrwydd arbennig y rhai oedd yn arwain. Nodwedd arall oedd eu hyder yn y Beibl. Roedd yn wych bod yn rhan o drafodaeth o safon uchel, wedi ei chynnal mewn modd cyfrifol.
Dros ginio roeddwn yn cyfarfod â Dr Brice Little, fydd yn arwain y grŵp apologeteg rwy’n rhan ohono dros y flwyddyn nesaf. Roedd dau arall o aelodau’r grŵp gyda ni. Bruce oedd yn llywyddu trafodaethau’r bore, felly buom yn ymateb i’r hyn oedd wedi digwydd ac yn datblygu’r y trafod ymhellach. Buom hefyd yn rhannu ychydig am ein gwahanol sefyllfaoedd. Roedd yn ddiddorol clywed Bruce yn sôn am ei ymweliadau â Nigeria i ddysgu yn y prifysgolion yno.
Er y gallwn fod wedi mynd i seminarau yn y prynhawn, penderfynais mai gorffwys oedd y peth doethaf. Diwedd y prynhawn cefais sgwrs gyda Lindsay Brown a John Stevens, cyfarwyddwr FIEC. Yna dros fwyd bûm yn mentora dau weinidog o Budapest yn Hwngari ynglŷn ag un maes yn y weinidogaeth roeddent yn awyddus i fentro iddo. Diweddodd gyda gwahoddiad i fynd allan atynt I annerch gweinidogion yn eu gwlad, ac anogaeth i ysgrifennu llyfr am y pwnc!
Yn y nos roedd pawb yn ymgasglu at ei gilydd eto i addoli a chawsom wrando ar Peter J Williams yn trafod pa mor ddibynadwy yw’r Beibl. Roedd yn wych gweld fel ag y mae ysgolheictod yn dod i’r farn bellach y gallwn gael hyder fod y Beibl yn gywir yn yr hyn mae’n ei ddweud. Wedi canrif o bobl yn tynnu’r Ysgrythur yn ddarnau gan ddweud fod y cyfan wedi ei newid dros y canrifoedd daw yn fwy a mwy amlwg fod yr hyn sydd gennym yn agos iawn at yr hyn ysgrifenwyd yn wreiddiol. Ond y peth mawr oedd yn dod i’r amlwg yn anerchiad Peter oedd fod hwn yn fwy na dogfen hanesyddol. Mae Duw wedi siarad fan yma, a’r cwestiwn mae sydd angen i ni ei holi ydi: Beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni yn y Beibl, a beth mae am i ni fod yng ngoleuni hyn? Heriodd ni i fod yn bobl y Beibl, er mwyn rhoi arweiniad i Ewrop yn yr unfed-ganrif-ar-hugain.
Gorffennais y noson yn sgwrsio gyda rhai am yr hyn roeddem wedi ei glywed, a natur ffydd ac ymddiriedaeth.