Tymor yr Adfent 3
‘“Stopiwch! Mae’n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i’n llawer uwch na’r cenhedloedd; dw i’n llawer uwch na’r ddaear gyfan.”’ (Salm 46:10 BNET)
Darllenwch Salm 46
Chymrodd hi ddim llawer i lywodraeth Prydain weithredu ar sail y bleidlais neithiwr i anfon awyrenau i Syria. O fewn ychydig oriau roedd pedair awyren ar y ffordd i ollwng bomiau ar dargedau, a phwy a ŵyr beth fydd diwedd yr ymladd yno. Filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn yr Unol Daleithiau mae cyflafan arall wedi bod. Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf saethwyd 14, a hynny mewn canolfan i gnorthwyo oedolion gydag anableddau. Mae’n ymddangos fod y byd wedi mynd o’i go, a beth mae Duw yn ei wneud?
Mae Salm 46 yn dweud wrthym mai Duw yw’r un yn y pen draw sydd yn dileu rhyfeloedd y ddaear. Wyddom ni ddim beth oedd amgylchiadau ysgrifennu’r salm hon, ond mae hanes y Nadolig yn dangos i ni fod gan Dduw ei gynllun ei hun i ddwyn heddwch i’w bobl. Ond nid trwy ollwng bomiau mae’n gwneud hyn. Yn hytrach danfonodd blentyn i’n byd – un gwan, diniwed, ond Un oedd yn fwy na dim ond plentyn. Dyma’r Gair tragwyddol wedi dod yn gnawd. Dyma’r Duw hollalluog yn cofleidio ein gwendid ni, gan ddod i ddwyn ein beichiau i groes Calfaria. Y newyddion da yw fod cymod yn bosib heddiw, yn yr Un a anwyd ym Methlehem.
Fe ddaw dydd pryd y bydd Duw yn rhoi stop ar y drygioni i gyd. Fe welodd Ioan hyn mewn gweledigaeth ddwy fil o flynyddoedd cyn i fomiau ddisgyn ar Syria – ‘Edrychais pan agorodd y chweched sêl. Bu daeargryn mawr, aeth yr haul yn ddu fel sachliain galar, a’r lleuad lawn yn goch fel gwaed. Rhwygwyd y ffurfafen fel sgrôl yn cael ei dirwyn, a symudwyd pob mynydd ac ynys o’u lle. A brenhinoedd y ddaear, y mawrion a’r cadfridogion, y cyfoethogion a’r cryfion, a phawb, yn gaethion ac yn rhyddion, cuddiasant eu hunain mewn ogofeydd ac yng nghreigiau’r mynyddoedd; a dywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, “Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni rhag wyneb yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd a rhag digofaint yr Oen, oherwydd daeth dydd mawr eu digofaint hwy, a phwy all sefyll?”’
(Datguddiad 6:12, 14-17 BCN)
Dyna pam fod galwad yr efengyl heddiw i bobl aros, ac ystyried yr hyn mae Duw wedi ei wneud yn alwad taer. Heddiw yw dydd iachawdwriaeth. ‘Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw:’ (Salmau 46:10 BWM)