Tymor yr Adfent 4
‘Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn, ond anfonodd nychdod i’w mysg.’
Y Salmau 106:15
Darllenwch Salm 106:6-15
Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn i blant y mis hwn ydi “Beth hoffet ti gael gan Siôn Corn?” Mae nhw’n cael eu gwahodd i ddychmygu beth fyddai’n rhoi llawenydd iddyn nhw. Yn wir, mae cymaint o firi’r tymor yn troi oddi amgylch y pethau sydd i’w cael a’u profi. Rhywsut rydym yn cael ein perswadio na fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb weld y rhaglen deledu arbennig, neu brofi’r bwydydd o ryw siop, neu roi’r tegan diweddaraf i’n plant. Nid fy mwriad yw gweiddi “Bah! Humbug!” – rwyf fi’n mwynhau mins pei gymaint ag unrhyw un arall!
Ond peth peryglus yw breuddwydio gormod, dymuno gormod.
Roedd Israel yn cael eu harwain o gaethiwed yr Aifft drwy’r anialwch tua gwlad yr addewid. Yn yr anialwch, lle roedd bwyd yn brin, rhoddodd Duw iddyn nhw fanna o’r nef – rhywbeth roedden nhw’n gallu ei gasglu bob bore a’i baratoi yn fwyd melys. Ond dechreuodd y bobl fod yn anfodlon- dim ond hyn a hyn o ffyrdd oedd yna i baratoi’r manna – a dyma ddechrau cwyno a dweud eu bod am gael cig i fynd efo’u mannabyrgyrs. Fe gawsan nhw gig, ond nid hynny’n unig. Dyma nhw’n ennyn dicter Duw, a trawyd llawer gan bla nes bu farw nifer ohonyn nhw. (Mae’r hanes yn Numeri 11)
Mae cyfieithiad William Morgan yn ei osod fel hyn: ‘Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.’ (Salm 106:15) Pwyslais y cyfieithiad hwn yw fod chwennych wedi amharu ar eu perthynas â’r Duw oedd am eu gwaredu.
Onid dyma ofid ein hoes ni. Rydym wedi perswadio cenhedlaeth fod pobl yn gallu byw ar fara yn unig. Rydym wedi rhoi cymaint o bwyslais ar y pethau a’r profiadau y gallwn eu cael yn hytrach na pherthynas â’n Crëwr? Dyma oes lle mae gennym fwy o deganau nag erioed. Mae gennym fwydydd na allai ein teidiau a’n neiniau ddim dychmygu eu cael. Mae rhyfeddodau ein hoes dechnolegol yn agor y drws i bob math o bethau. Ond mae ein hoes yn newynu am rywbeth mwy. Tydi’r pethau ddim yn bodloni. Daeth culni i’n heneidiau. Daeth nychdod i’n mysg.
Dyna pam fod stori’r Nadolig mor berthnasol i’n hoes. Mae’n sôn am y gwir fanna o’r nef (Ioan 6:33). Dyma fara’r bywyd sy’n digoni, ac yn parhau wedi i swyn yr anrhegion eraill hen ddiflannu.
A dyna pam mai’r ffordd orau i helpu rhai fwynhau’r Nadolig yw eu hatgoffa am hanes y geni ym Methlehem.