Tymor yr Adfent 5

Published by Dafydd Job on

image“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy’n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu’r cwbl oedd ganddo, a’i brynu.’
‭‭Mathew‬ ‭13:45-46‬ ‭

Darllenwch Mathew 13:44-46

Mae ein bywyd yn cael ei yrru gan ein dymuniadau. Yr hyn mae ein calon wedi rhoi ei fryd arno, dyna’r hyn rydym yn ymdrechu i’w gael. Mae hyn yn gyrru masnach y Nadolig wrth gwrs, ond mae’n gwneud mwy hefyd.

Bydd rhieni yn aberthu er mwyn eu plant – am mai eu dymuniad yw eu gweld yn llwyddo. Bydd eraill yn ymdrechu’n galed am eu bod am gyrraedd y brig ym maes chwaraeon, neu ddysg neu fusnes. Bydd rhai wedyn, wedi eu dal gan rhyw angen i helpu’r tlawd neu’r claf. Fedrwn ni ddim ond edmygu eu hunan-aberth arwrol.

Neges yr efengyl yw fod yna un peth sy’n werth aberthu popeth er ei fwyn. Unwaith y cawn wir olwg ar yr Arglwydd Iesu, yna fe fydd gennym un awch neu ddymuniad fydd yn gryfach nag unrhyw dynfa arall yn ein bywyd. Fe fynegodd yr apostol Paul hyn mewn ffordd arbennig iawn wrth ysgrifennu at Gristnogion Philipi: ‘Rwyf am ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef,’ (Philipiaid‬ ‭3:10‬ ‭BCN‬‬)

I’r rhan fwyaf ohonom mae hyn yn golygu tensiwn yn ein bywyd. Mae ein dymuniadau yn gymysg, am fod ein calonnau’n cael eu tynnu ddwy ffordd. Mae in chwantau yn ein tynnu’r naill ffordd a’r llall. Ar y naill ochr bydd rhywbeth yn tynnu ein bryd oddi ar y trysor mawr, a byddwn yn dweud gyda Richard Morris:
Difa lygredd ein calonnau;
Tyn ein chwantau dan ein traed.

Ar y llaw arall byddwn weithiau yn cael y fath olwg ar Drysor y nef nes ein bod yn gallu dweud gyda Phantycelyn:
Rho fy nwydau fel cantorion,
Oll i chwarae’u bysedd cun
Ar y delyn sydd yn seinio
Enw’r Iesu mawr ei Hun.

Fe ddywedai C.S. Lewis mai ein problem yw fod ein chwantau yn rhy wan, nid yn rhy gryf. Rydym yn bodloni ar ry ychydig, pan rydym wedi ein creu i brofi a mwynhau Duw ei hun. Rydym yn bodloni ar y pethau eilradd, yn hytrach na cheisio’r gorau. Beth am ddefnyddio rhywfaint o amser dros y penwythnos i geisio cael golwg newydd ar y baban a anwyd ym Methlehem.

O! Na chawn i olwg hyfryd
Ar ei wedd, Dywysog Bywyd;
Tegwch byd a’i holl bleseraut
Yn ei wydd a lwyr ddiflannai.