Tymor yr Adfent 7
‘Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni.’
Darllenwch Ioan 1:1-14
Heddiw rwyf ar fy ffordd o Fangor (Athen y gogledd) i ddinas Athen yng ngwlad Groeg. Mae’n daith oedd n golygu dal y trên ddoe a dod i Lundain, a’r bore ma rwy’n dal awyren i hedfan draw o lawogydd ynysoedd Prydain i heulwen (gobeithio) Môr y Canoldir. (Cofiwch – nid mynd i fwynhau gwyliau ydw i ond mynd ar gyfer tri diwrnod o astudio a thrafod gyda chriw amrywiol o nifer o wahanol wledydd.)
Mae hanes y geni yn llawn o sôn am deithio hefyd. Teithiodd yr Angel Gabriel draw i Jerwsalem i gyfarch Sachareias, ac i Nasareth at Mair. Mae hithau’n teithio i fynydd-dir Jwda i weld Elisabeth. Mae Mair a Joseff yn mynd ar y daith o Nasareth i Fethlehem, a’r sêr ddewiniaid yn dod o’r Dwyrain i weld y baban. Ond y daith fwyaf o ddigon yn yr hanes yw’r un gymrodd y baban bach wrth ddod i’n byd. Dyma daith gychwynnodd ar orsedd y nef, a phlymiodd i gell fach yng nghroth Mair, i breseb ym Methlehem, i weithdy’r Saer yn Nasareth, ac i groes gywilyddus a chreulon Calfaria. Daeth y Gair yn gnawd a gwneud ei gartref yn ein plith ni. Neu o’i roi fel ag y gwnaeth yr Apostol Paul: ‘Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.’ (Philipiaid 2:6-8 BCN)
Dyma’r cariad sy’n gwneud i ni ryfeddu ac addoli bob diwrnod. Felly, ble bynnag fyddwch chi heddiw, ar daith, yn eich gwaith neu gartref, diolchwch am i Dduw eich caru ddigon i ddanfon ei Fab o ogoniant nef i bellteroedd daear er eich mwyn.
(Nid wy’n siwr sut gysylltiad gwe fydd gennyf dros y dyddiau nesaf ond fe geisiaf gadw’e myfyrdodau i fynd os gallaf.)