Tymor yr Adfent 15
Enw arall a roddwyd i’n Harglwydd ni yw hwnnw a geir ar ddechrau efengyl Ioan – Y Gair. Mae’n wir fod yr union air “logos” yn y Groeg yn golygu llawer mwy na dim ond “gair”. Ond gallai Ioan ddim fod wedi dewis enw mwy addas ar gyfer ein hoes ni – oes cyfathrebu – lle mae geiriau yn llenwi tonfeddi’r awyr a’r we yn fwy nag erioed.
Y baban a anwyd yw’r Un y mae Duw yn cyfathrebu â’i greaduriaid drwyddo (Hebreaid 1:1).
Mae geiriau yn ennill eu pwysigrwydd drwy’r hyn mae nhw’n ei gyfathrebu i ni. Gall ambell i air fod yn ddibwys – wrth i ni fân siarad. Ond mae nhw’n dod yn fwy arwyddocáol pan mae rhywbeth o werth yn cael ei ddweud – pan fydd cyfarwyddiadau yn cael eu rhoi i rywun sydd ar goll ynglŷn â’r ffordd adref, neu pan fydd meddyg yn egluro i ni ein hangen am driniaeth. Beth fedrwn ei ddweud am Grist Y Gair.
Mae’n Air rhesymol. Yn y gwreiddiol mae Logos (y gair groeg) yn golygu rheswm. Mae Duw yn Dduw rhesymol, wedi gosod trefn yn y greadigaeth gyda phethau megis disgyrchiant yn egwyddor gyson yn y cyfan. Rydym yn gwybod fod y ddaear yn troelli oddi amgylch i’r haul, a phlanhigion yn tyfu a dŵr yn llifo tuag i lawr oherwydd mai dyma’r math o Dduw sydd gennym.
Mae’n Air tragwyddol. Yn y dechreuad yr oedd y Gair. Doedd yna ddim byd o’i flaen a daw dim byd ar ei ôl. Mewn man arall mae’n dweud ‘Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r olaf, y dechrau a’r diwedd.”’ (Datguddiad 22:13 BCN) Mewn byd sy’n newid yn gyson dyma chi rywbeth sydd yn parhau. ‘Y mae’r glaswellt yn crino, a’r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”’ (Eseia 40:8 BCN)
Mae’n Air nerthol. ‘Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod.’ (Ioan 1:3 BCN) Darllenwn yn nechrau’r Beibl, yn y bennod gyntaf, dro ar ôl tro: “Dywedodd Duw… A hynny a fu.” Pa nerth yw hwnnw sy’n dwyn bydysawd i fod. Mae’r gwyddonwyr yn sôn am y “Big Bang” oherwydd y nerth ollyngwyd wrth i’r bydysawd ddod i fod. Pwy yw hwn felly, trwy yr hwn y gwnaethpwyd pob peth?
Mae’n Air o awdurdod: mewn un digwyddiad ar fôr Galilea dywedodd y disgyblion men braw “Pwy ydy hwn? Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i’r gwynt a’r dŵr, ac maen nhw’n ufuddhau iddo.”’ (Luc 8:25 BNET). Yn y synagog yng Nghapernaum dywedodd y bobl: “Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau’n ufuddhau iddo.” (Marc 1:27 BCN) O fedd ym Methania fe glywodd Lasarus farw ei orchymyn ac ar ei alwad: “Lasarus, tyrd allan!”, dyma’r dyn oedd wedi marw’n dod allan. (Ioan 11:43-44 BNET)
Mae’n Air bywiol: “Ynddo ef yr oedd bywyd” (Ioan 1:4). Yn wyneb marwolaeth ei brawd fe ddywedodd wrth Martha: “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.” (Ioan 11:25-26)
Mae’n Air sy’n barnu. ‘A dywedodd Iesu, “I farnu y deuthum i i’r byd hwn, er mwyn i’r rhai nad ydynt yn gweld gael gweld, ac i’r rhai sydd yn gweld fynd yn ddall.”’ (Ioan 9:39 BCN) Mae’n darlun ni o Iesu tirion yn anghofio fod yr un Iesu wedi dweud y bydd ar ddiwedd amser yn didoli’r defaid oddi wrh y geifr, gan roi bywyd i’r naill a gyrru’r lleill i’r tân nad yw’n diffodd (Mathew 25:31-46)
Mae’n Air trugarog. Ni chyrhaeddodd dydd barn eto. Mae’n ddydd gras, sy’n golygu fod y Gair tragwyddol, awdurdodol, cyfiawn hwn yn ein gwahodd i brofi ei drugaredd rhyfeddol. Mae’n dweud wrthym heddiw ‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.”’ (Mathew 11:28-30 BCN)
Does dim amser i barhau i sôn am y Gair yn goleuo, yn rhoi arweiniad, a llu o bethau eraill, ond gadewch i ni heddiw ymateb i LOGOS Duw mewn ffydd ac ymddiriedaeth a diolchgarwch mawr.