Tymor yr Adfent 19
Darllenwch Rhufeiniaid 8:1-5
Dyma ni wedi cyrraedd y penwythnos olaf cyn y Nadolig ei hun. Bydd amryw wrthi heddiw mae’n siwr yn edrych am yr anrheg hwnnw sydd heb eto gael ei brynu. Mae dewis anrheg addas i ambell un yn hawdd, ond nid felly gyda phawb. Mae yna rai sy’n anodd eu plesio, naill ai am fod ganddyn nhw ddigonedd, neu am nad ydyn nhw efallai yn bobl sy’n rhoi pwys mawr ar bethau. Mae chwilio am rywbeth gwahanol i’r rhain yn gamp.
Mae’r Nadolig yn ein hatgoffa o anrheg Duw i’n byd – Mae geiriau o Feibl William Morgan wedi eu serio ar galonnau llawer ohonom: ‘Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab‘ (Ioan 3:1). Ond mae geiriau eraill o Efengyl Ioan yn ein hatgoffa o ba mor addas yw’r rhodd hon: ‘O’i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras.’ (Ioan 1:16 BCN)
Beth mae Ioan yn ei olygu wrth sôn am ras ar ben gras? Pa anrheg fedrai Duw ei roi i ni? Un peth fedrai Duw ei wneud â’n byd fyddai troi ei gefn arnom i gyd. Am i ni droi ein cefn arno yntau a gwrthod ei garu â’n holl galon, a gwrthod caru ein cymydog fel ni ein hunain, fe fedrai fod wedi ein gwrthod yn llwyr, ond nd dyna a wnaeth. Er i Adda ac Efa gael eu cau allan o ardd Eden, fe roddwyd addewid grasol y byddai “Had y Warig” yn dod i ddifa’r gelyn. (Genesis 3:15)
Yna wrth i’r byd fynd ymhellach oddi wrth Dduw, fe alwodd Abraham, gan roi iddo’r addewid grasol y byddai holl deuluoedd yn ddaear yn derbyn bendith trwy ei had yntau (Genesis 12:3). Ac eto roedd y bydd fel petai ar goll. Ganrifoedd yn ddiweddarach, roedd had Abraham, oedd wedi tyfu’n genedl erbyn hyn, yn dianc o’r Aifft lle roedden nhw wedi bod yn gaethweision. Daeth Duw atyn nhw, ac un o’r cwestiynau mawr iddyn nhw oedd sut fedren nhw fyw gyda Duw yn eu canol. Fe roddwyd deddf iddyn nhw a Duw o’i ras yn dweud mai dyma sut fedren nhw fyw gydag o. (Exodus 20). Y broblem oedd na fedren nhw ei gadw. Er mai gras roddodd y ddeddf iddyn nhw, a Duw yn dweud “Os gwnewch chi gadw hon, mi fydd pethau’n dda rhyngoch chi a fi”, doedd yr anrheg ddim yn ddigon. Doedd yr anrheg rhywsut ddim yn addas.
Mae’n parhau yn broblem heddiw. Rydym yn meddwl fod yna rywbeth y gallwn ni ei wneud fydd yn plesio Duw ddigon ac yn sortio’n problemau ni allan. Ond mae angen mwy arnom ni ac ar ein byd. Ond dyma ras ar ben gras yn dod yn Iesu Grist. ‘Yna dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd;’ Luc 2:10-11 BCN
Dim ond Gwaredwr fyddai’n ddigon i’n helpu. Dim ond Ceidwad i’n cadw, fel mae cyfieithiad William Morgan yn ei ddweud, neu Achubwr fel mae Beibl.net yn ei ddweud. Dyma’r gras ar ben gras, oherwydd:
‘Yr hyn oedd y tu hwnt i allu’r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau’r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i’n cnawd pechadurus ni, i ddelio â phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd.’ Rhufeiniaid 8:3 BCN
Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio,
Geni Seilo, gorau swydd;
Wele ddynion mwyn a moddion
Ddont a rhoddion iddo’n rhwydd.
Hen addewid Eden odiaeth
Wele heddiw ddaeth i ben;
Wele drefniad dwyfol gariad
O flaen ein llygad heb un llen.
Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
Trefn gollyngdod inni’n llawn.
Duw ryfeddir, iddo cenir
Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
‘N eistedd ar yr orsedd fawr.
Haleliwia! Haleliwia!
Aeth i’r lladdfa yn ein lle;
Haleliwia! Haleliwia!
Duw sy’n fodlon ynddo fe.
Sain Hosanna i Fab Dafydd,
Iesu beunydd fyddo’n ben;
Am ei haeddiant sy’n ogoniant
Bydded moliant mwy. Amen.