Ar ddegfed dydd y Nadolig
Darllenwch Salm 139:13-18
Un o’r rhesymau byddwn ni fel teulu yn cofio’r Nadolig hwn ydi’r hyn ddigwyddodd bedwar diwrnod wedi’r diwrnod mawr. Fe anwyd ein hwyres fach, Ana Rachel, a hynny wedi dyddiau o bryder.
Oherwydd bod rhai cymhlethdodau ynglŷn â’r enedigaeth bu’n rhaid dwyn yr enedigaeth ymlaen dair wythnos yn fuan er mwyn diogelu iechyd Ana a’i mham. Ond bellach mae’r ddwy adref yn ddiogel, a ninnau’n rhyfeddu at y bywyd newydd – y person cyflawn sydd wedi dod i lenwi byd ei rhieni, ei brawd, ac i ddwyn llawenydd mawr i ninnau.
Mae hyn yn ennyn sawl ymateb yn ein calonnau ni:
Diolchgarwch – am y gofal meddygol sydd ar gael yn ein dyddiau ni. Ganrif yn ôl byddai’n debygol iawn na fyddai naill ai’r fechan neu ei mham, neu efallai’r ddwy heb oroesi. Ond trwy’r cynnydd mewn gwybodaeth a gofal, a thrwy sgiliau’r staff meddygol mae gennym reswm i lawenhau’n fawr.
Rhyfeddod – mae yma berson cyflawn, lle ychydig fisoedd yn ôl doedd neb erioed wedi meddwl amdani. Fe gaiff, trwy ras Duw, dyfu a magu ei phersonoliaeth ei hun. Fe fydd ganddi ei doniau, ei diddordebau, ei hanes, ei byd a’i bywyd cyflawn. Fe ddywaid anffyddwyr mai hap a damwain yw pob dim, ac nad yw Ana ond canlyniad damweiniol proses amhersonol dibwrpas. Ond does gen i ddim digon o ffydd i gredu hynny. Nid clwstwr o foleciwlau yw Ana, ond person byw, cyflawn sydd â phwrpas a gogoniant yn perthyn i’w bodolaeth. ‘Ti a greodd fy ymysgaroedd, a’m llunio yng nghroth fy mam.’ (Y Salmau 139:13 BCN)
Addoliad – Â ninnau wedi bod yn dathlu’r Nadolig, mae’n rhyfeddol meddwl am Dduw’r Mab, y Gair Tragwyddol yn dod yn faban bach. ‘Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.’ (Philipiaid 2:6-7). Sut fedrwch chi gymryd môr yr Iwerydd a’i grynhoi a’i gynnwys mewn cwpan o ddŵr, ond eto ‘ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio’n gorfforol,’ (Colosiaid 2:9 BCN). Bu’r Gair tragwyddol yn gorwedd yn ddiymadferth mewn siôl ym mreichiau ei fam, yn union fel Ana fach! Pam wnaeth y Duwdod drefnu hyn i gyd? Er mwyn ein hachub ni – gwrthryfelwyr haerllug yn erbyn ei gariad daionus Ef.
Er fod heddiw i lawer yn ddiwrnod o ddychwelyd at fywyd arferol wedi gwyliau, gadewch i ni gofio fod llawenydd y Nadolig yn parhau i ni wedi i’r tinsel a’r trimmings ddiflannu. ‘Gwelwch pa fath gariad y mae’r Tad wedi ei ddangos tuag atom: er mwyn i ni gael ein galw yn blant Duw (1 Ioan 3:1). Neu yng ngeiriau’r hen garol sy’n dal i siarad â’n calonnau: “O deuwch ac addolwn Grist o’r nef!“