60 mlynedd yn ôl

Published by Dafydd Job on

imageAr y diwrnod hwn chwe-deg mlynedd yn ôl lladdwyd Jim Elliot a phedwar cyfaill gan Indiaid Auca yng nghoedwigoedd Equador. Gadawyd pedair grwaig yn weddw, a naw o blant heb eu tad. Pam fentrodd y pump i le mor beryglus? Oherwydd eu bod am rannu’r newyddion am Iesu Grist i bobl nad oedd erioed wedi clywed amdano.

I lawer roedd eu haberth yn annoeth ac yn wastraff. Ond o ganlyniad i’w haberth hwy aeth eraill, gan gynnwys dwy o’r gweddwon, at y bobl gyntefig hyn, a bellach mae yna dystiolaeth gref i’r Arglwydd Iesu yn eu plith. Ymhlith y rhai gredodd y neges oedd y rhai lofruddiodd Jim a’i gyd-genhadon. Cawsant eu troi o’u ffyrdd rhyfelgar at gariad a thrugaredd Cristnogol.

Mae hanes yr eglwys yn llawn o enghreifftiau tebyg o bobl yn barod i wynebu’r pris mwyaf er mwyn rhannu cariad Crist gydag eraill. Un o’r llyfrau fwynheais i llynedd oedd The Secret of Nabelan Kabelan. Llyfr yn olrhain hanes Jacques H Teeuwen a’i wraig yn mynd i Papua Guinea Newydd i sefyllfa debyg fel cenhadon. Gwelsant ffrwyth amlwg i’w gwaith, a hynny ymhlith pobl oedd yn enwog am ladd unrhyw ddieithryn fentrai i mewn i’w tiriogaeth. Flynyddoedd yn ddiweddarach gofynodd Jacques i un o’r rhai gredodd eu neges am Grist pam na chawsan nhw eu lladd. Yr ateb oedd na ddaru nhw just ddim dod rownd i wneud hynny. Roedd y risg yr un fath ag un Jim Elliot.

Gallwn sôn am eraill sy’n mentro heddiw i ogledd Iraq a llefydd tebyg er mwyn Crist. Mae’n ymddangos mor ffôl i’r byd. Ond yng ngeiriau Jim Elliot ei hun “He is no fool who gives what he cannot keep to gain what he cannot lose.”

Wrth feddwl yn ôl at aberth y pump cenhadwr ym mynyddoedd Equador, ac wrth gofio fod y “dorf o dystion” (Hebreaid 12:1. Darllenwch hefyd Hebreaid 11) yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, yna mae cwestiwn yn ein wynebu ni sy’n arddel Crist heddiw. Yden ni’n cadw’n gafael ar yr hyn ryden ni’n mynd i orfod ei golli ryw ddydd heb geisio’r hyn sy’n mynd i bara i dragwyddoldeb?