Penwythnos ym Mudapest

Published by Dafydd Job on

imageFel rhan o fy ngweinidogaeth gydag UFM rwyf wedi dod i Fudapest yn Hwngari i gynorthwyo eglwys yma.

Dydd Gwener cyrhaeddais Budapest ar gyfer cyfres o gyfarfodydd dros y penwythnos. Fe’m croesawyd yn y maes awyr gan Laszlo, y gweinidog oedd wedi fy ngwahodd yma. Wedi mynd i’w gartref cawsom dipyn o sgwrs am ein gwahanol sefyllfaoedd a’n hanes. Mae’n gymeriad diddorol, wedi ei godi yn anffyddiwr, ond wedi dod i ffydd yn sgîl ei chwaer ddaeth yn Gristion rhyw chwe mis o’i flaen. Bu’n gweithio yn Serbia am rai blynyddoedd wedi rhyfel y Balcan, cyn dod i Budapest i rannu ei amser rhwng gweinidogaethu yn yr eglwys a rhedeg canolfan sy’n ceisio cynorthwyo rhai sy’n dioddef oherwydd “human trafficking.” Gan fod ganddo rai pethau i’w gwneud fe’m gadawyd wedyn gyda dau o’i blant bach yn gwylio Sam Tân mewn Hwngareg!

Fin nos cefais fy nhrosglwyddo i ŵr ifanc o’r enw Andraš. Mae’n gweithio i gwmni meddalwedd, ond gyda baich dros gyrraedd y gymdeithas hoyw yn y ddinas. Aethom i fwyty ynghanol y ddinas, ac yno cyfarfod â dau arall – gan gynnwys un ferch sy’n ceisio cymorth. Mae’n amlwg gydag anghenion dwys, a llawer o ragfarnau sydd angen eu goresgyn. Cafwyd dwyawr o drafod dwys, cyn bod rhaid iddi adael.

Rwy’n aros gydag Andraš a’i deulu. Maent yn byw mewn fflat ynghanol y ddinas a bore Sadwrn cawsom fynd i weld Budapest yn y glaw! Rwy’n siwr ei bod yn ddinas hardd iawn, ond doedd dim golygfeydd arbennig heddiw. Cefais awr wedyn yng nghwmni hogan sy’n lletya yn y fflat, a hithau yn holi cyngor wrth feddwl am ei dyfodol.

Yn ystod y pynhawn galwodd tad Andraš heibio, ar ei ffordd adref o brotest fawr ynghanol y ddinas. Roedd athrawon o bob rhan o’r wlad yn protestio ynglŷn â’r hyn mae’r llyodraeth yn ei gynllunio ym myd addysg. Yn wleidyddol mae’r llywodraeth yn adain dde, gyda’r ofn mawr ymhlith Cristnogion fod y ffasgwyr yn codi mewn poblogrwydd. Mae dipyn o bryder am y dyfodol yma ymhlith y rhai rwyf fi wedi eu cyfarfod. Fel ym Mhrydain mae yna chwarae ar ofnau pobl ynglŷn â’r mewnfudwyr.

Yn y nos roedd cyfarfod wedi ei drefnu ynghanol y ddinas, mewn canolfan sy’n cael ei mynychu gan bob math o bobl. Roedd y waliau yn llawn graffiti, a cherddoriaeth uchel yn llenwi llawer o’r lle. Ond roedd yr ystafell lle casom ni gyfarfod yn ddigon distaw. Cyfarfod wedi ei hysbysebu ar Facebook yn unig oedd hwn, a doedd dim syniad gan Andras faint fyddai yno. Yn y pen draw roedd tua ugain wedi dod, ac wedi i mi siarad (drwy gyfieithydd) am tua tri chwarter awr, cafwyd trafodaeth agored am hanner awr arall, cyn i’r cyfarfod droi yn fwy anffurfiol. Roedd y trafod yn ddwys, a chyfle i greu pontydd rhwng yr eglwys â rhai o’r gymdeithas hoyw yn y ddinas.

Fore Sul roedd disgwyl i mi siarad yn eglwys Lazslo. Mae’n eglwys ifanc (tua pum mlwydd oed) wedi ei sefydlu fel cangen o eglwys ynghanol y ddinas. Roedd tua 80 yn bresennol, yn amrywio mewn oedran, ond nifer ohonynt yn deuluoedd ifanc. Agorwyd y cyfarfod gyda grwp addoli yn arwain nifer o ganeuon. Wedyn gofynwyd i minnau siarad, a chafwyd gwrandawiad arbennig yno. Erbyn diwedd y cyfarfod roedd nifer mewn dagrau, a sawl un yn dod i ofyn cyngor a cheisio cymorth. Roedd yn fraint cael bod yn gymorth i’r eglwys ystyried rhywbeth oedd yn amlwg yn cyffwrdd nifer o’r teuluoedd yno.

Wedi’r cyfarfod roedd y bobl yn araf yn diflannu o’r lle. Cefais innau fy nghymryd i gartref Lazslo ar gyfer gweddill y dydd, lle byddaf yn aros heno. Bore fory byddaf yn gadael yn gynnar i deithio i Košice ar y tren i gael treulio ychydig o ddyddiau gyda Heledd.