Albania – y diwrnod olaf
Daeth y glaw heddiw, a hwnnw mewn cawodydd trwm, cyson, ac ambell i daran. Mae hyn yn debyg o fod y glaw olaf fydd yn dod tan mis Hydref. Ochr yn ochr â’r glaw rwyf finnau wedi dal annwyd rhywsut! Roedd brecwast yn dawel gyda dim ond Dewi, minnau, ac un wraig o’r Unol Daleithiau yn y gwesty.
Aethom draw i Eglwys Imanuel erbyn 10.30 lle roedd pobl yn ymgynnull ar gyfer y gwasanaeth. Tydi pobl Albania ddim yn enwog am eu prydlondeb, a doedd heddiw ddim yn eithriad. Wedi dipyn o amser dechreuwyd y gwasanaeth gyda Zef yn arwain y gynulleidfa mewn gweddi fer, a darlleniad o Salm. Wedyn fe gawsom ganu sawl cytgan, gyda’r geiriau ar uwchdaflunydd, gŵr yn y blaen yn chwarae gitâr a dau arall yn ei gynorthwyo i ganu. Yna fe siaradodd Zef am ychydig, gan ein croesawu ni. Mae Altin, o Gymdeithas y Beibl, yn gyd-henuriad yn yr eglwys, ac fe weddïodd yntau dros Dewi a minnau a’n heglwysi yng Nghymru. Wedyn fe godais i bregethu.
Roedd Zef yn cyfieithu, ac fe gymerais fy neges o lyfr y Pregethwr a’r drydedd bennod. (mae’r hi ar gael yn Gymraeg ar wefan Capel y Ffynnon).
Yn yr oedfa roedd Shaun, cenhadwr o Loegr sydd wedi bod yn Girokaster ers sawl blwyddyn. Mae newydd symud i Tirana er mwyn addysg ei blant. Cawsom sgwrs ag ef, ac ambell un arall. Yna roedd sawl un yn mynd i gaffi lleol am baned wedi’r oedfa. Yn dilyn hynny aethom â Zef a’i deulu am bryd o fwyd mewn bwyty Eidalaidd ynghanol y ddinas.
Roedd yn braf cael gorffwys yn y prynhawn, ac er fod storm fawr o daranau drwy’r pnawn roedd modd cael rhyw awr o gwsg. Daeth Altin a Zef i’n cymryd i Vaqarr, pentref moslemaidd y tu allan i’r brifddinas. Mae eglwys Imanuel wedi bod yn plannu gwaith yma ers rhai blynyddoedd, ac roeddwn i bregethu yma eto am 6.00.
Mae Vaqarr yn bentref tlawd ar gyrion y brifddinas. Mae’n bentref traddodiadol foslemaidd, ond label teuluol ydi hwn yn hytrach na bod yna gred o argyhoeddiad. Sefydlwyd y gwaith ar sail rhai o eglwys Zef yn mynd yno i chwarae pêl droed, ac yna gwahodd y chwaraewyr i edrych ar y Beibl efo’i gilydd. O dipyn i beth daeth rhai i gredu, ond cododd cryn wrthwynebiad i’r gwaith pan agorwyd mosg yno dair blynedd yn ôl. Mae nifer o’r Cristnogion yn sefyll yn gadarn. Roeddem yn cyfarfod mewn canolfan chwaraeon, a daeth rhyw bymtheg ynghyd, yn wŷr, gwragedd a phlant. Doedd dim canu na threfn gwasanaeth arferol. Siaradodd Zef am ychydig i’w galw i drefn, a gwneud rhai cyhoeddiadau. Wedyn cyflwynwyd Dewi a minnau, ac ar ôl hynny fe ofynnwyd i mi siarad. Rhennais yr un neges â bore ma. Roedd yna wrandawiad da. Roedd un yno oedd yn hŷn na’r mwyafrif. Ef oedd y cyntaf yn y pentref i ddweud yn agored ei fod yn Gristion, a phan soniais amdanom yn saithdegau’r ganrif diwethaf yn gweddïo dros Albania, fe loywodd ei wyneb drwyddo. Ar ôl fy sgwrs gofynnodd Zef os oedd unrhyw un am ofyn cwestiwn. Doedd dim cwestiwn, ond fe ddiolchodd y gŵr hwn am y gair, ac am i ni weddïo dros Albania.
Wedi’r cyfarfod aethom yn ôl i ganol y ddinas loe gwnaethom ni ffarwelio gyda Zef ac Altin. Aeth y ddau ohonom i chwilio am damaid bach o fwyd cyn noswylio er mwyn cychwyn yn gynnar bore fory am y maes awyr.